Toggle menu

1. Canllaw Defnyddiwr

8.Cael dyfarniad grant

8.1         Asesu eich 'Cynnig Datblygedig'

Pan fyddwch wedi cyflwyno eich 'Cynnig Datblygedig', byddwn yn gwirio bod popeth yn ei le a byddwn yn cysylltu i roi gwybod i chi pryd y gallwch ddisgwyl penderfyniad. Ni fyddwn yn gallu dechrau asesu'r cynnig nes y byddwn wedi cael yr holl wybodaeth a'r holl ddogfennau ategol perthnasol. Mae'n annhebygol y byddwch yn clywed gennym eto nes y byddwn yn eich hysbysu am ein penderfyniad.

Cyn cynnal asesiad llawn, byddwn yn cynnal rhai gwiriadau cychwynnol o'r wybodaeth y byddwch wedi'i rhoi i ni (mae'n bosibl y byddwn yn gwirio rhai materion eraill bryd hynny hefyd, megis eich hanes gyda ni, neu'n cynnal gwiriadau ariannol a gwiriadau'n ymwneud â thwyll ac yn gwirio mai chi ydych chi). Cyhyd â bod canfyddiadau'r gwiriadau hynny'n dderbyniol, byddwn yn parhau i asesu eich cynnig llawn.

Pan fyddwn yn gwneud hynny , byddwn yn ei ystyried ar sail ystod o fesurau perfformiad a elwir gennym yn Ffactorau Llwyddiant Allweddol. Mae angen ein bod yn gallu blaenoriaethu'r mannau lle bydd ein buddsoddiad yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Os na fydd eich cais yn bodloni ein meini prawf manwl, mae'n bosibl y bydd yn cael ei wrthod. Bydd perfformio'n dda ar sail y meini prawf hyn hefyd yn ein helpu i wireddu ein huchelgeisiau ar gyfer twf economaidd yn y canolbarth.

8.2         Ystyried risg

Wrth asesu eich cynnig, byddwn yn llunio barn yn bwyllog am y risgiau posibl i'ch prosiect ac am risgiau cyfredol y busnes - a byddwn yn ceisio gweld a ydych wedi nodi'r rhain yn ddigonol ac wedi dweud wrthym sut y byddwch yn eu lliniaru.

8.3         Penderfyniadau

Bydd Panel Gwerthuso yn cyfarfod i drafod yr holl gynigion wrth iddynt ein cyrraedd. Fodd bynnag, bydd angen rhywfaint o amser arnom i'w gwerthuso'n dechnegol cyn hynny. Yna, bydd argymhelliad y Panel yn cael ei gyfeirio at ein corff llywodraethu a fydd yn gwneud penderfyniad terfynol. Ein nod yw cwblhau prosesau arfarnu/cymeradwyo cynigion cyn pen dau fis ar ôl iddynt gael eu cyflwyno.

8.4         Dyfarniadau grant dros dro a therfynol

Os bydd eich 'Cynnig Datblygedig' yn cael ei gymeradwyo, byddwn yn rhoi Dyfarniad Grant Dros Dro i chi. Bydd yn rhaid i chi aros am ganiatâd gennym cyn dechrau ar eich prosiect. At hynny, bydd angen i chi ymrwymo i'n Telerau Grant.

Pan fydd Cam 4 RIBA wedi'i gwblhau, byddwn yn gofyn i chi gadarnhau eich bod yn dal mewn sefyllfa i fwrw ymlaen â'r prosiect a chyflawni'r allbynnau a'r canlyniadau a nodwyd. Pan fyddwch wedi cadarnhau hynny wrthym, byddwch yn cael Dyfarniad Grant Terfynol.

Bydd gennych hyd at ddwy flynedd i gwblhau'r Cam Cyflawni (gan gynnwys Cam 4 RIBA) oni bai ein bod wedi cytuno â chi ar gyfnod hirach ar gyfer y prosiect.

8.5         Sut y byddwn yn talu eich hawliadau am grant

Yn achos pob grant, byddwn yn gwneud taliadau'n ôl-weithredol. Mae hynny'n golygu y bydd yn rhaid i chi fynd i gostau ymlaen llaw a darparu tystiolaeth i ni eich bod wedi mynd i'r costau hynny (ar ffurf cyfriflenni banc fel rheol), h.y. tystiolaeth o 'gostau sydd wedi'u talu', a gaiff eu hawlio bob chwarter. Cytunir ar Gylch Hawlio Grant â chi at y diben hwnnw.

Ar ddiwedd pob cyfnod hawlio, bydd angen i chi gyflwyno Ffurflen Hawlio Grant. Bydd y ffurflen honno'n cael ei hadolygu gan Dîm Rheoli'r Gronfa ac eraill i wneud yn siŵr bod unrhyw hawliadau'n ddilys, eu bod wedi'u hategu gan dystiolaeth briodol a chadarn, eu bod yn dangos gwerth am arian, a'u bod yn dangos bod y canlyniadau gofynnol o ran cynnydd yn cael eu cyflawni'n unol â thelerau'r dyfarniad grant.

Pan fydd y gwiriadau hyn wedi'u cwblhau, bydd yr hawliad yn cael ei awdurdodi er mwyn i'r swm priodol gael ei dalu. Byddwn yn talu eich grant ar sail canran o gostau eich prosiect. Rydym yn galw'r ganran honno'n gyfradd ymyrryd (neu'n ganran talu). Er enghraifft, os £800,000 yw cyfanswm costau eich prosiect ac os £440,000 yw eich cyfraniad chi ar ffurf cyllid ar y cyd, £360,000 fydd eich grant a 45% fydd eich cyfradd/canran.

Byddwn yn ceisio talu hawliad llwyddiannus yn ystod y mis a fydd yn dilyn y cyfnod hawlio, e.e. ar gyfer cyfnod hawlio Ionawr - Mawrth, bydd y Cyngor yn ceisio talu'r hawliad ym mis Ebrill.

Byddwn hefyd yn cadw 10% olaf eich grant nes y byddwn yn fodlon bod y prosiect wedi'i gwblhau, bod y grant wedi'i wario yn briodol, a'ch bod wedi anfon eich adroddiad gwerthuso terfynol atom.

8.6         Os bydd eich 'Cynnig Datblygedig' yn aflwyddiannus

Mae'r broses asesu yn broses gystadleuol, ac ni allwn ariannu'r holl geisiadau da a gawn. Os bydd eich cais yn aflwyddiannus, byddwn yn dweud wrthych pam.

Gallwch fyfyrio ynghylch ein rhesymau a cheisio gwella eich cais, ond bydd yn rhaid i chi aros tan yr Alwad Agored nesaf cyn ailgyflwyno unrhyw beth.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu