1. Canllaw Defnyddiwr
4. Y broses gwneud cais
Mae proses y Gronfa ar gyfer gwneud cais wedi'i rhannu yn bedwar cam, a'r cam olaf yw gweld eich prosiect yn cael ei weithredu a'r manteision yn cael eu gwireddu, sef y Cam Cyflawni.
4.1 Galwad Agored
Bydd 'Galwad Agored' yn cael ei lansio er mwyn i fentrau gynnig eu syniadau i ni eu hystyried. Bydd Galwadau Agored yn cael eu hysbysebu'n eang ar draws nifer o sianelau cyfathrebu er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd cynifer o bobl ag sy'n bosibl.
P'un a fyddwch yn dod i wybod am y Gronfa drwy'r Alwad Agored ai peidio, rhaid i chi gael sgwrs gychwynnol â Thîm Rheoli'r Gronfa. Bydd y Tîm yn trafod cyfyngiadau'r Gronfa â chi ac yn penderfynu a yw eich syniadau'n bodloni dyheadau cyffredinol y Gronfa. Os ydynt, byddwch wedyn yn cael eich gwahodd yn ffurfiol i gyflwyno 'Cynnig Hyfywedd'.
Rhaid nad yw eich prosiect wedi dechrau cyn ein bod yn eich gwahodd i gyflwyno cynnig. Ni all unrhyw gostau yr aethpwyd iddynt ar gyfer gwaith a wnaed hyd yr adeg honno gael eu cynnwys.
Bydd unrhyw gais am grant dan y Gronfa hon yn cystadlu â phrosiectau eraill.
4.2 Cam Hyfywedd
Os cewch eich gwahodd, bydd gennych uchafswm o ddau fis i gyflwyno eich 'Cynnig Hyfywedd'. Rhaid i'ch cynnig gael ei gyflwyno gan ddefnyddio ein E-Ffurflen Cynnig Hyfywedd, gan glymu unrhyw wybodaeth ychwanegol angenrheidiol wrthi.
Pan fyddwn wedi cael y ffurflen, byddwn yn asesu eich cais cyn pen mis. Ar ôl i'r cais gael ei asesu, bydd yn cael ei bennu i'r cyfarfod nesaf sydd wedi'i drefnu ar gyfer gwneud penderfyniadau.
Os byddwn yn penderfynu peidio â'ch gwahodd i gyflwyno 'Cynnig Datblygedig', byddwn yn esbonio pam. Gallwch fyfyrio ynghylch ein rhesymau a cheisio gwella eich cais, ond bydd yn rhaid i chi aros tan yr Alwad Agored nesaf cyn ailgyflwyno unrhyw beth.
Nid yw derbyn gwahoddiad i gyflwyno 'Cynnig Datblygedig' yn gwarantu y byddwch yn cael dyfarniad grant.
4.3 Cam Datblygu
Dylech ganiatáu digon o amser i fynd drwy eich cynnig yn fanylach a sicrhau ei fod wedi'i ystyried yn llawn erbyn yr adeg y byddwch yn cyflwyno 'Cynnig Datblygedig'. Rhaid i'ch cynnig gael ei gyflwyno gan ddefnyddio ein E-Ffurflen Cynnig Datblygedig, gan glymu unrhyw wybodaeth ychwanegol angenrheidiol wrthi.
Dylech feithrin dealltwriaeth well o'r costau, yr adnoddau, yr amserlen, ac anghenion eich menter (a allai olygu hefyd bod angen ymgynghori â'ch cwsmeriaid) a dylech ddefnyddio'r wybodaeth honno'n sail i'ch cynnig.
Bydd gennych uchafswm o chwe mis i gyflwyno eich 'Cynnig Datblygedig'. Pan fyddwn wedi cael y ffurflen a'r holl ddogfennau ategol angenrheidiol, byddwn yn asesu eich cais cyn pen mis. Ar ôl i'r cais gael ei asesu, bydd yn cael ei bennu i'r cyfarfod nesaf sydd wedi'i drefnu ar gyfer gwneud penderfyniadau.
Mae'r gwaith o ddatblygu cynigion yn debygol o gynnwys y canlynol:
- ymgynghori â phobl y tu allan i'ch busnes
- adolygu eich trefniadau llywodraethiant
- cynllunio busnes
- gwneud gwaith dylunio a chynllunio manwl
- cynnal unrhyw arolygon neu ymchwiliadau sy'n ofynnol.
Os bydd eich 'Cynnig Datblygedig' yn cael ei gymeradwyo, byddwn yn rhoi Dyfarniad Grant Dros Dro i chi. Os byddwn yn penderfynu peidio â chymeradwyo eich cynnig, byddwn yn esbonio pam.
4.4 Cam Cyflawni
Bydd hwn yn digwydd ar ôl dyfarnu grant, ac yn y bôn mae'n golygu creu'r cyfleusterau newydd yr ydym wedi cytuno i'w cefnogi (a fydd fel rheol yn cynnwys gweithgarwch Camau 4 i 6 RIBA). Byddwn yn trafod eich cynllun cyflawni prosiect â chi yn ystod y Cam Datblygu. Dylech ddarparu gwybodaeth fanwl am eich cynigion cyflawni yn eich cais.
Pan fydd Cam 4 RIBA wedi'i gwblhau, byddwn yn gofyn i chi gadarnhau eich bod yn dal mewn sefyllfa i fwrw ymlaen â'r prosiect a chyflawni'r allbynnau a'r canlyniadau a nodwyd. Pan fyddwch wedi cadarnhau hynny wrthym, byddwch yn cael Dyfarniad Grant Terfynol.
Bydd gennych hyd at ddwy flynedd i gwblhau'r Cam Cyflawni (gan gynnwys Cam 4 RIBA) oni bai ein bod wedi cytuno â chi ar gyfnod hirach ar gyfer y prosiect.
4.5 Amserlen darged ar gyfer y broses o'i dechrau i'w diwedd
