26.06.25 Mae ton newydd o arloesi'n digwydd ar draws y canolbarth a'r gogledd wrth i fusnesau blaengar gael cymorth yn rhan o gynllun gan Innovate UK, sef Meithrin Arloesi yn y Clwstwr Technoleg Amaeth a Thechnoleg Bwyd ar gyfer Canolbarth a Gogledd Cymru.
Mae cystadleuaeth newydd hefyd wedi agor, gan gynnig cyfle i ragor o fusnesau wneud cais am gyllid — gweler isod am fanylion.
Mae'r sawl sydd wedi cael cyllid yn fwyaf diweddar yn hybu atebion i rai o heriau mwyaf y sector — o gynhyrchu cynaliadwy a diogelwch bwyd i brosesu clyfar a roboteg. Mae 13 o gwmnïau wedi cael cefnogaeth i archwilio syniadau a allai drawsnewid y diwydiant bwyd a ffermio.
Mae pob prosiect wedi cael cyllid dan lwybr Cymorth Ariannol Lleiaf y rhaglen a ariennir gan Innovate UK, a bwriad y cyllid yw galluogi prosiectau Ymchwil a Datblygu a dichonoldeb ar raddfa fach. Mae'r cymorth hwn yn galluogi busnesau i roi prawf ar syniadau, eu treialu a'u datblygu — syniadau y gellir eu gweithredu ar raddfa fwy yn nes ymlaen drwy ragor o gyllid i arloesi.
Dyma'r 13 o brosiectau a'r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni:
- Agroceutical Products Ltd, Powys
Nod y prosiect Wool2Lube yw mynd i'r afael â dwy her hollbwysig: sef y ffaith nad oes defnydd digonol yn cael ei wneud o wlân defaid Cymru, a'r galw cynyddol ledled y byd am gynnyrch iro sy'n gynaliadwy ac yn garedig i'r amgylchedd.
Amped Pcr Ltd, Ceredigion
Prosiect sy'n datblygu dangosfwrdd data clyfar i wella system canfod pathogenau'n gynnar, sef PurifAI, er mwyn helpu cynhyrchwyr bwyd a chyrff iechyd cyhoeddus i adnabod yn sydyn unrhyw risgiau o ran halogi ac er mwyn eu helpu i ymateb yn sydyn i'r risgiau hynny â dealltwriaeth ragfynegol mewn amser real — sy'n hybu cadwynau cyflenwi bwyd mwy diogel a mwy effeithlon ledled y byd.- Arcitekbio Ltd, Ceredigion
Nod y prosiect XyloPrO-CX, mewn partneriaeth ag ArloesiAber, yw masnacheiddio proses eplesu gynaliadwy ARCITEKBio Ltd er mwyn cynhyrchu xylitol o wastraff, sy'n garedig i'r amgylchedd ac sy'n gynnyrch mwy iach a gwyrdd y gellir ei ddefnyddio yn lle siwgr.
- Chitexo Limited, Ceredigion
Nod y prosiect hwn yw datblygu model bioburo gan ddefnyddio cynrhon y blawd, sy'n troi gwastraff bwyd lleol yn fwyd cynaliadwy i ddofednod, yn gynnyrch naturiol i roi hwb i gnydau, ac yn gynnyrch iechyd anifeiliaid —sy'n helpu i leihau gwastraff, lleihau allyriadau a hybu economi amaethyddol gylchol.
- Cleobury Project Management Limited, Powys
Mae'r prosiect hwn, sef Mewngapsiwleiddio Cynaliadwy ac Optimeiddio Maethynnau ar gyfer Amaethyddiaeth (Sustainable Encapsulation and Nutrient Optimisation foR Agriculture (SENORA)) a arweinir gan Cleobury, yn creu gwrtaith cynaliadwy o wastraff bwyd a gwastraff fferm, gan gynnwys plisg wyau, er mwyn gwella iechyd pridd, lleihau effaith amgylcheddol, a chynnig cynnyrch amgen cost-effeithiol yn lle gwrteithiau synthetig, sy'n hybu amaethyddiaeth yng Nghymru a nodau economi gylchol.
- Conwy Kombucha Limited, Conwy
Mae Conwy Kombucha Ltd, mewn partneriaeth â Phytoquest Ltd, yn datblygu 'Smart Jar: Family Fun Fermenting for Health', sef system glyfar ar gyfer cynhyrchu Kombucha gartref. Mae Kombucha yn gwella iechyd, a nod y system fyddai hybu imiwnedd a rheoli Diabetes Math 2 a Chlefyd Llid y Coluddyn.
Data Dynamics Ltd, Powys
Mae Data Dynamics, gyda Bwydydd Castell Howell, yn datblygu system a yrrir gan Ddeallusrwydd Artiffisial i ragweld llwyddiant cnydau, er mwyn helpu tyfwyr a chyflenwyr yng Nghymru i allu rhagweld cynaeafau'n well, lleihau gwastraff a chynllunio cadwynau cyflenwi'n well. Gan ddefnyddio delweddau lloeren a gwaith dysgu gan beiriannau, bydd y prosiect yn hybu system fwyd fwy sefydlog, effeithlon a chynaliadwy yng Nghymru.Diagnostig Ltd, Ynys Môn
Mae Diagnostig yn cynnal profion ar brawf gwaed syml, newydd er mwyn canfod clefyd Johne mewn gwartheg, a hynny'n gynt na dulliau cyfredol o ganfod y clefyd. Gan weithio gyda ffermwyr lleol, bydd aelodau'r tîm yn cymharu eu prawf nhw â phrofion cyfredol er mwyn dangos ei fod yn gallu bod o fwy o gymorth i ganfod a rheoli'r clefyd cyn iddo ymledu, a fydd yn cynorthwyo mwy o fuchesau i fod yn rhydd o glefyd Johne.Neurabotics Ltd, Ceredigion
Astudiaeth ddichonoldeb sy'n ceisio asesu a yw technoleg roboteg yn gallu cynnig ateb hyfyw i'r heriau o ran llafur a chostau sy'n wynebu'r sector tyfu ffrwythau yn y DU.Pennotec (Pennog Limited), Gwynedd
Nod y prosiect hwn, sef MilaCel Plus, yw datblygu cynhwysion arloesol, cynaliadwy a llawn ffeibr y gellir eu defnyddio yn lle braster a siwgr mewn bwydydd parod, gan ddefnyddio cnydau lleol nas defnyddir yn ddigonol, a hynny er mwyn hybu dietau mwy iach, lleihau gwastraff bwyd, a hybu bioamrywiaeth yn y canolbarth a'r gogledd.- Terrafarmer Agriculture Ltd, Powys
Bydd Prosiect Meddyginiaethau Biolegol Terrafarmer yn helpu ffermwyr yn y canolbarth a'r gogledd i gynnal profion ar gynnyrch naturiol i wella pridd, tyfu cnydau gwell, a lleihau'r angen am gemegolion. Bydd profion yn cael eu cynnal ar ddeg cae yn 2025, a'r nod hirdymor yw hybu ffermydd iach, cryf a mwy cynaliadwy.
- Ymchwil Tetrim Research Cyf., Ceredigion
Nod y prosiect Datblygu Diodydd Maethlon i Hybu Heneiddio Gweithredol (Functional Ageing Nutrition Beverage Innovation (FANBI)) yw mynd i'r afael â diffyg maeth ymhlith oedolion hŷn, drwy ddatblygu powdrau te ac ysgytlaeth siocled cynaliadwy a llawn protein, sydd wedi'u cyfoethogi â chynhwysion gweithredol, naturiol i gynnal y cyhyrau, gallu gwybyddol ac iechyd cyffredinol, gan gefnogi amaethyddiaeth yng Nghymru ar yr un pryd ac arloesi gyda labeli glân.
- Yr Ardd Fadarch Eryri Cyf., Gwynedd
Nod y prosiect Rhoi Gwerth Ar Isbridd Hysbydd Madarch: Cynhyrchu Bioethanol a Bioactifau ar gyfer Atebion ym maes Ynni Cynaliadwy (Valorisation of Spent Mushroom Substrate: Bioethanol and Bioactives Production for Sustainable Energy Solutions (VaSMS)), a arweinir gan Madarch Cymru, yw troi gwastraff o ffermio madarch dan do yn fioethanol gwerthfawr ac yn gyfansoddion sy'n hybu iechyd. Drwy ddefnyddio technegau biobrosesu datblygedig, bydd y prosiect yn lleihau gwastraff, yn hybu nodau'n ymwneud ag ynni adnewyddadwy, ac yn creu cyfleoedd newydd o ran incwm i dyfwyr.
Mae'r prosiectau hyn yn ymuno â rhwydwaith cynyddol o brosiectau arloesi ym maes Technoleg Amaeth a Thechnoleg Bwyd ar draws y canolbarth a'r gogledd — sy'n cryfhau economïau gwledig ac yn hybu pontio i ddyfodol mwy cynaliadwy a yrrir gan ddata ar gyfer y system fwyd.
Meddai Barbara Green, Rheolwr Prosiect ar gyfer Sefydliad Rheoli Clwstwr Technoleg Amaeth a Thechnoleg Bwyd Canolbarth a Gogledd Cymru, Tyfu Canolbarth Cymru: "Mae dyfarniadau'r Cymorth Ariannol Lleiaf yn hwb hanfodol i arloesi yn ein sector technoleg amaeth a'n sector technoleg bwyd. Mae'r prosiectau hyn yn dangos sut y gall hyd yn oed cyllid ar raddfa fach ddatgloi syniadau mawr — o systemau bwyd cynaliadwy i ddiagnosteg ddatblygedig. Maent yn helpu i greu economi flaengar a mwy cydnerth ar draws y canolbarth a'r gogledd."
Meddai Louise Jones, Rheolwr Cymru, Innovate UK: "Rydym yn falch o weld y don gyntaf o gyllid y Cymorth Ariannol Lleiaf yn mynd i grŵp mor amrywiol o fusnesau. Mae'n dangos pa mor eang yw gwaith arloesi ar draws y rhanbarth a sut y gall cymorth wedi'i dargedu helpu i fynd i'r afael â heriau go iawn ym maes bwyd, ffermio a chynaliadwyedd. Rydym yn edrych ymlaen at weld y prosiectau hyn yn datblygu ac yn arwain at effaith hirdymor."
Meddai Elliw Hughes, Rheolwr Rhaglen y Fargen Twf, Uchelgais Gogledd Cymru: "Mae'r mentrau hyn sy'n cael y Cymorth Ariannol Lleiaf yn adlewyrchu dyfeisgarwch ac uchelgais busnesau yn ein rhanbarth. Drwy roi cyfle iddynt archwilio syniadau newydd a rhoi prawf arnynt, rydym yn helpu i greu'r amodau ar gyfer twf a arweinir gan arloesi — nid yn unig ym maes amaethyddiaeth a bwyd ond hefyd ar draws yr economi ehangach."
Bydd cystadleuaeth ariannu newydd gan Innovate UK yn agor ar 30 Mehefin 2025, gan gynnig cyfleoedd pellach i fusnesau Technoleg Amaeth a Thechnoleg Bwyd yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru i gael cymorth arloesi. Anogir busnesau i gofrestru ar gyfer y gweminar briffio i ymgeiswyr ar 3 Gorffennaf 2025, a fydd yn rhoi arweiniad manwl ar sut i wneud cais ac ar beth sy'n gwneud cais cryf. Mae rhagor o fanylion am y gystadleuaeth a'r gweminar (yn y tab 'Dates') ar gael ar dudalen gystadleuaeth Innovate UK: https://apply-for-innovation-funding.service.gov.uk/competition/2212/overview/4411087f-2a92-4aed-b735-d1a813376bec#summary
Yn ystod y 18 mis nesaf, drwy'r cynllun Meithrin Arloesi yn y Clwstwr Technoleg Amaeth a Thechnoleg Bwyd ar gyfer Canolbarth a Gogledd Cymru, bydd y Sefydliad Rheoli Clwstwr yn cydlynu gweithgareddau ac yn hyrwyddo mwy o gyfleoedd o ran cyllid gan Innovate UK.
Gall busnesau sydd â diddordeb mewn ymuno â'r clystyrau Technoleg Amaeth neu Dechnoleg Bwyd ac sydd â diddordeb mewn cael y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd o ran cyllid yn y dyfodol gael rhagor o fanylion ar wefan Tyfu Canolbarth Cymru: www.tyfucanolbarth.cymru/TechAmaethTechBwyd
