1. English
Dewislen llywio safle agored

Newyddion a Digwyddiadau

Gallwch weld y newyddion diweddaraf am Dyfu Canolbarth Cymru, datblygiadau am weithgarwch a sefydliadau yr ydym yn eu cefnogi trwy ddilyn ein tudalennau Linked In a Twitter:

https://twitter.com/growingmidwales

www.linkedin.com/company/growing-mid-wales
 

Cylchlythyron 

Tyfu Canolbarth Cymru Cylchlythyr mis Mai 2023 (PDF) [1MB]

Cylchlythyr mis Ebrill 2023 Tyfu Canolbarth Cymru (PDF) [955KB]

Tyfu Canolbarth Cymru Cylchlythyr mis Mawrth 2023 (PDF) [1MB]

Tyfu Canolbarth Cymru Cylchlythyr Mis Chwefror (PDF) [1MB]

Cylchlythyr Tyfu Canolbarth Cymru Mis Ionawr 2023 (PDF) [1MB]

Tyfu Canolbarth Cymru Cylchlythyr mis Rhagfyr 2022 (PDF) [1MB]

Cylchlythyr mis Tachwedd Tyfu Canolbarth Cymru (PDF) [1MB]

Cylchlythyr Tyfu Canolbarth Cymru Mis Hydref 2022 (PDF) [1MB]

Cylchlythyr Tyfu Canolbarth Cymru Mis Medi 2022 (PDF) [1MB]

Awst 2022 Cylchlythyr Tyfu Canolbarth Cymru (PDF) [1MB]

Gorffennaf 2022 Cylchlythyr Tyfu Canolbarth Cymru (PDF) [1MB]

Os ydych yn dymuno derbyn ein cylchlythyrau misol, ebostiwch tyfucanolbarthcymru@ceredigion.llyw.cymru i gael eich ychwanegu at ein rhestr cylchrediad. Nodwch eich enw llawn, teitl swydd (os yw'n berthnasol) a sefydliad (os yw'n berthnasol). Bydd eich data'n cael ei storio mewn modd diogel gan gydymffurfio â'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol a bydd ond yn cael ei ddefnyddio i ddarparu'r wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani.

 

Lansio cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Canolbarth Cymru 2022 - 2025

Daeth busnesau a sefydliadau Canolbarth Cymru at ei gilydd yn ddiweddar ar gyfer diwrnod, Tyfu - Diffinio - Cyflawni Gyda'n Gilydd lle lansiwyd yn swyddogol Gynllun Cyflogaeth a Sgiliau 2022-2025 Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru.

Bargen Dwf Canolbarth Cymru yn gobeithio sicrhau'r gyfran gyntaf o arian gan y ddwy Lywodraeth

Yng nghyfarfod Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru a gynhaliwyd ar 28 Mawrth, cymeradwywyd dogfennau allweddol, gan symud Bargen Dwf Canolbarth Cymru gam yn nes at dderbyn cyfanswm o £110m gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Galwad agored ar gyfer ymgeiswyr Cronfa Ffyniant Gyffredin Canolbarth Cymru

Mae Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Powys yn falch o gyhoeddi y gall sefydliadau yn y rhanbarth gyflwyno eu ceisiadau ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yng Nghanolbarth Cymru yn fuan.

Busnesau Canolbarth Cymru - dywedwch wrthym beth sydd ei angen arnoch chi ar gyfer y dyfodol i ddiwallu nodau eich busnes

Bydd Tyfu - Diffinio - Cyflawni Gyda'n Gilydd, sef digwyddiad ymgysylltu a gynhelir gan Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru, yn cael ei gynnal ar fore 23 Mawrth er mwyn rhoi cyfle i chi, busnesau Canolbarth Cymru, ddod at eich gilydd a dweud beth sydd ei angen arnoch ar gyfer y dyfodol i gyflawni nodau eich busnes.

Crewyd partneriaeth newydd a fydd yn canolbwyntio ar sgiliau yng Nghanolbarth Cymru, yn ogystal â helpu i yrru twf economaidd trwy sicrhau bod y rhaglenni datblygu sgiliau iawn ar waith.

Croesawu Cyhoeddiad Gan Lywodraeth Y DU Am Gyllid Ar Gyfer Y Fargen Dwf

Mae arweinwyr y rhanbarth wedi croesawu'r newyddion y bydd Llywodraeth y DU yn cyflymu ei chyllid ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru.

Bargen Twf Canolbarth Cymru'n Cyrraedd Y Camau Datblygu Olaf

Bydd Bargen Twf Canolbarth Cymru'n wynebu penderfyniad dyrys ar ddiwedd y mis pan fydd angen cymeradwyaeth i gyflwyno'r Achos Busnes Portffolio drafft i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Portffolio Bargen Twf Canolbarth Cymru Yn Cyrraedd Carreg Filltir Allweddol

Mae Bargen Twf Canolbarth Cymru wedi mynd heibio carreg filltir bwysig ar ôl derbyn cymeradwyaeth i gyflwyno Achos Busnes drafft y Portffolio i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Arweinwyr Cynghorau'n Cyfarfod  Llywodraeth Y DU A Llywodraeth Cymru I Gyrraedd Y Cam Nesaf Ar Gyfer Bargen Twf Tyfu Canolbarth Cymru

Cyfarfu Arweinwyr Cyngor Sir Powys a Chyngor Sir Ceredigion, yn eu rolau fel cyd-gadeiryddion Cyd-bwyllgor Tyfu Canolbarth Cymru, â'r Aelod Seneddol David TC Davies, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Llywodraeth y DU yng Nghymru, a Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi, i drafod Bargen Twf Canolbarth Cymru a chyflawni'r cam nesaf pwysig.

Bargen Twf Canolbarth Cymru Yn Cyrraedd Carreg Filltir Bwysig

Heddiw, llofnodwyd y Cytundeb Terfynol ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol y rhanbarth, sef Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Powys.

Angen Arweinwyr Busnes I Sbarduno Sgiliau Rhanbarthol

Mae Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru (RSP) yn chwilio am arweinwyr busnes ac arbenigwyr economaidd i fynegi diddordeb i ddod yn gadeirydd bwrdd yr RSP. Cynhelir Cyfarfod Blynyddol yr RSP ar ddydd Llun 12 Medi, pan ddisgwylir cyhoeddi enw'r Cadeirydd newydd.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu