Toggle menu

Atebion Clyfar ar gyfer Ffermio Cynaliadwy: Datgarboneiddio Amaethyddiaeth yng Nghanolbarth Cymru

26.06.26 Mae Cam 1 y rhaglen Ymchwil ac Arloesi System Gyfan ar gyfer Datgarboneiddio (WSRID) - a ddarperir gan Tyfu Canolbarth Cymru ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru - wedi dod â mewnwelediadau gwerthfawr i sut y gall Systemau Ynni Lleol Clyfar (SLES) gefnogi datgarboneiddio ar draws yr economi wledig.

Trwy bum astudiaeth ddichonoldeb, mae'r rhaglen wedi datblygu ein dealltwriaeth o sut y gall y systemau hyn fynd i'r afael â chyfyngiadau capasiti grid, rhoi hwb i hunangynhaliaeth ynni gwledig, a lleihau allyriadau—gan osod y sylfaen ar gyfer Cam 2, a fydd yn canolbwyntio ar brofion yn y byd go iawn a llwybrau i fasnacheiddio.

Mae'r canfyddiadau yn tynnu sylw at y manteision sylweddol y gellir eu cyflawni trwy ddefnydd arloesol o dechnolegau sefydledig a thechnolegau sy'n dod i'r amlwg. O fynd i'r afael ag aneffeithlonrwydd ynni a rheoli gwastraff amaethyddol, i wella iechyd ecolegol ein cyrsiau dŵr a lleihau llwyth ynni cymunedau gwledig, mae'r prosiectau hyn yn cynnig atebion ymarferol a all yrru gostyngiadau carbon wrth ysgogi twf economaidd lleol.

Mae dau brosiect amaethyddol arloesol a ariennir drwy Gam 1 yn arwain y ffordd wrth archwilio sut y gall ffermydd gyfrannu at uchelgeisiau sero net Cymru. Mae'r ddau yn treialu dulliau newydd o reoli adnoddau, cynhyrchu ynni adnewyddadwy, a lleihau allyriadau—gan gynnig modelau graddadwy ar gyfer dyfodol ffermio yng Nghanolbarth Cymru.

Pŵer o Slyri: Lafan a Choleg Sir Gâr

Mae Lafan, Ymgynghoriaeth Busnes Gymreig wedi'i lleoli yn MSparc ar Ynys Môn, sy'n gweithio ledled Cymru, yn gatalydd ar gyfer trawsnewid, a phont rhwng heriau ac atebion.

Canolbwyntiodd Lafan, gan weithio mewn partneriaeth â Choleg Sir Gâr, ar fater hanfodol sy'n wynebu'r sector da byw: rheoli slyri. Roedd eu prosiect yn archwilio'r potensial o sefydlu canolfan trin slyri ganolog a allai wasanaethu clystyrau o ffermydd. Gan ddefnyddio technolegau datblygedig fel treulio anaerobig (chwalu gwastraff heb ocsigen i gynhyrchu bionwy - nwy adnewyddadwy o wastraff organig wedi'i ddadelfennu, a ddefnyddir ar gyfer ynni) a pyrolysis (gwresogi deunydd organig heb ocsigen i greu bio-olosg, sylwedd tebyg i siarcol o biomas sy'n gwella'r pridd ac yn storio carbon), ymchwiliodd y tîm i sut i drosi slyri da byw yn ynni adnewyddadwy a bio-olosg.

Fel rhan o'r astudiaeth, fe wnaethant edrych ar brosesau dad-ddyfrio a ddatblygwyd yng Nghanolfan Ymchwil Amaethyddol Gelli Aur, a all leihau'n sylweddol y cynnwys dŵr mewn slyri - lleihau anghenion storio a chludiant - tra'n adfer hyd at 98% o'r maetholion. Gellir ailddefnyddio neu ailddosbarthu'r rhain yn fwy effeithlon i leihau llygredd amaethyddol a chefnogi'r economi gylchol.

Mae eu gweledigaeth yn cynnwys creu canolfannau rhanbarthol sy'n cael eu pweru gan bionwy ac sy'n gallu allforio gwres a thrydan adnewyddadwy i fusnesau cyfagos, tra'n lleihau effaith amgylcheddol ffermio.

Water to Water: Llaeth Sero Net Cyntaf Cymru

Mae'r prosiect 'Water to Water' - a gyflwynwyd mewn partneriaeth â'r cwmni llaeth cydweithredol First Milk - yn archwilio gweithredu Systemau Ynni Lleol Clyfar (SLES) ar ffermydd. Nod y systemau hyn yw galluogi ffermydd llaeth i ddod yn hunangynhaliol o ran ynni, gan bweru popeth o offer godro i systemau dŵr poeth a cherbydau sy'n defnyddio cynhyrchu a storio adnewyddadwy ar y safle.

Trwy deilwra systemau ynni glân i weithrediadau fferm unigol, mae'r prosiect yn ceisio lleihau allyriadau carbon tra hefyd yn gwella cynaliadwyedd ariannol hirdymor i ffermwyr. Mae'r dull hwn yn cefnogi datgarboneiddio'r sector amaethyddol heb orlwytho'r grid trydan lleol - gan gynnig model graddadwy y gellid ei ailadrodd ar draws Cymru wledig a thu hwnt.

Edrych ymlaen
Mae rhaglen WSRID yn dangos bod yr uchelgais o ddatgarboneiddio cymunedau gwledig yn gyraeddadwy ac yn werth chweil. Trwy alluogi cynhyrchu a storio ynni adnewyddadwy lleol, mae'r prosiectau hyn yn dangos sut y gallwn yrru twf economaidd - cefnogi gosodwyr, cyflenwyr a chontractwyr lleol - tra hefyd yn ail-fuddsoddi refeniw mewn mentrau a arweinir gan y gymuned sy'n cryfhau cydlyniant cymdeithasol a lles.

Gan adeiladu ar lwyddiant Cam 1, bydd cam nesaf y rhaglen yn cefnogi detholiad o brosiectau i symud i ddatblygu prototeipiau ac arddangoswyr. Bydd y cam hwn yn darparu cyfleoedd ar gyfer profi a mireinio yn y byd go iawn, gan helpu i lunio atebion graddadwy, masnachol hyfyw ar gyfer economi wledig carbon isel.

I ddarganfod mwy am yr holl brosiectau sydd wedi derbyn cyllid WSRID, ewch i: www.tyfucanolbarth.cymru/WSRID-CY

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu