Toggle menu

Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn Hybu Arloesedd a Mentrau Cymdeithasol yng Nghanolbarth Cymru

24.05.2024 Mae arian o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU wedi'i ddyfarnu i saith prosiect rhanbarthol nodedig yng Nghanolbarth Cymru, gan sbarduno datblygu economaidd ac entrepreneuriaeth gymdeithasol yn y rhanbarth. Nod y prosiectau, sy'n rhychwantu Ceredigion a Phowys i gyd, yw meithrin twf economaidd, cynaliadwyedd ac ymgysylltiad â'r gymuned.

Mae dwy fenter sy'n cael eu rhedeg gan Cwmpas ac ArloesiAber Cyf yn enghraifft o flaenoriaethau buddsoddi strategol y gronfa. Hefyd maent yn cyd-fynd â gweledigaeth Tyfu Canolbarth Cymru o ranbarth mentrus a nodedig sy'n cyflawni twf economaidd sy'n cael ei yrru gan arloesedd, sgiliau, cysylltedd a swyddi mwy cynhyrchiol. Bydd y rhain yn cynnal cymunedau ffyniannus a dwyieithog.

Cwmpas: Cymorth Arbenigol i Fentrau Cymdeithasol yng Nghanolbarth Cymru

Mae Cwmpas wedi lansio menter i ddarparu cymorth arbenigol i fentrau cymdeithasol yng Nghanolbarth Cymru. Mae'r prosiect hwn yn hybu gallu Busnes Cymdeithasol Cymru drwy ddarparu ymgynghoriaeth arbenigol a chyswllt â'r farchnad gyda'r nod o feithrin yr economi gymdeithasol.

"Gyda chymorth y cyllid hwn gallwn gynnig cymorth proffesiynol mwy pwrpasol gan roi hwb sylweddol i effeithiolrwydd a chyrhaeddiad y cymorth i fusnesau cymdeithasol yn y rhanbarth", meddai Kathy Rivett, Rheolwr Prosiect Cwmpas. Ers ei sefydlu yn 2015, mae Busnes Cymdeithasol Cymru wedi cynorthwyo dros 900 o fusnesau ac wedi bod yn allweddol wrth greu dros 700 o swyddi.

ArloesiAber Cyf:  Sbarduno arloesedd o ran ymchwil a datblygu yng Nghanolbarth Cymru

Mae ''Catalydd Datrysiadau' (Solutions Catalyst) ArloesiAber Cyf yn targedu busnesau bach a chanolig sy'n seiliedig ar wybodaeth a hynny mewn sectorau hanfodol megis iechyd, amaeth, yr amgylchedd a bwyd. Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio i bontio'r bwlch mewn cymorth Ymchwil a Datblygu gan alluogi busnesau i ymgymryd â gweithgarwch cysyniad-dyluniad-prawf sy'n hanfodol ar gyfer cystadlu yn y farchnad.

Bydd y rhaglen yn cyflymu'r cynnydd mewn ymchwil a datblygu drwy gynnig taleb gwerth hyd at £30,000 er mwyn i gwmnïau gael mynediad dan oruchwyliaeth i gyfleusterau a galluoedd cwbl fodern ArloesiAber, ynghyd ag arbenigedd academaidd Prifysgol Aberystwyth.

"Bydd Solutions Catalyst yn trawsnewid y darlun arloesi yng Nghanolbarth Cymru gan helpu cwmnïau i ddatblygu a thorri tir newydd, a thyfu'n economaidd," meddai Dr Rebecca Charnock, Rheolwr Datblygu Ymchwil Diwydiannol AberInnovation.

Ar y cyd, dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod o Gabinet Cyngor Sir Ceredigion dros yr Economi ac Adfywio a'r Cynghorydd David Selby, Aelod o Gabinet Powys dros Bowys Mwy Llewyrchus a Chadeirydd Partneriaeth Leol Powys ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin: "Rydym yn falch iawn o weld effaith y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn ein rhanbarth. Mae'r prosiectau hyn nid yn unig yn hyrwyddo arallgyfeirio economaidd a chynaliadwyedd ond hefyd yn cryfhau cysylltiadau cymunedol a hunangynhaliaeth ranbarthol. Mae'n fuddsoddiad strategol yn nyfodol Canolbarth Cymru gan sicrhau bod Ceredigion a Phowys yn ffynnu fel cymunedau deinamig ac arloesol."

Yn ogystal â Cwmpas ac ArloesiAber Cyf mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU wedi ariannu pum prosiect arall sy'n gweithredu ar draws y ddwy sir yn rhanbarth Canolbarth Cymru, sef: Dadansoddi a Mapio Cysylltedd Digidol - Tyfu Canolbarth Cymru; AnTir Powys / Ceredigion, Canolbarth Cymru; Rhaglen Lluosi i Rieni; Tyfu'r Economi Fwyd yn Lleol, a Money Mystery.

Mae'r prosiectau hyn, ynghyd â 160 o brosiectau eraill yng Ngheredigion a Phowys, yn fuddsoddiad sylweddol yn nyfodol Canolbarth Cymru.

Mae Rhanbarth Canolbarth Cymru wedi cael £42 miliwn o gyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2025. Mae Cynghorau Ceredigion a Phowys yn cydweithio i ddarparu'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yng Nghanolbarth Cymru.

Am ragor o wybodaeth am bob prosiect a'u canlyniadau, ewch i'r dudalen Economi ar wefannau Cynghorau Sir Powys a Cheredigion:

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am newyddion ranbarthol, cofrestrwch ar gyfer cylchlythyr Tyfu Canolbarth Cymru drwy e-bostio: tyfucanolbarthcymru@ceredigion.llyw.cymru.

[Digwyddiad Solutions Catalyst]

Solutions Catalyst event, AberInnovation
Levelling up logo Cymraeg
Funded by UK GOV logo CYMRAEG

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu