Toggle menu

Arolygon diweddaraf

A oes angen cymorth arnoch i ehangu eiddo masnachol?

Mae Rhaglen Safleoedd ac Eiddo Bargen Twf Canolbarth Cymru yn cyhoeddi arolwg er mwyn deall yn well gynlluniau busnesau ar draws y rhanbarth ar gyfer tyfu yn y dyfodol a'u hangen am eiddo masnachol.

Nod yr arolwg yw nodi'r angen am ymyrraeth ar ffurf cyllid yn y farchnad leol ar gyfer safleoedd ac eiddo masnachol. Bydd yr ymatebion i'r arolwg yn galluogi Tyfu Canolbarth Cymru, sy'n rheoli Bargen Twf Canolbarth Cymru, i ystyried amrywiaeth o opsiynau o ran cymorth, a allai helpu busnesau i gyflawni eu nodau o ran datblygu.

Mae Tyfu Canolbarth Cymru am gasglu cynifer o ymatebion ag sy'n bosibl fel y gellir dadansoddi'r data sy'n dod i law er mwyn deall y galw am gymorth. Yna, bydd Tyfu Canolbarth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i adolygu'r opsiynau a gweld beth yw eu hyd a'u lled.

Mae'r arolwg hwn bellach ar gau ond mae'r Rhaglen Safleoedd ac Eiddo Rydym bob amser yn chwilio am fusnesau a buddsoddwyr posibl i weithio gyda nhw er mwyn helpu i wireddu potensial llawn y Rhaglen. Os oes gennych ddiddordeb mewn trafod ymhellach unrhyw gyfleoedd i fuddsoddi neu os hoffech gymryd rhan mewn unrhyw ffordd, mae croeso i chi gysylltu â:

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu