02.05.25 Lansiwyd Cronfa Buddsoddi mewn Eiddo Masnachol Canolbarth Cymru'n swyddogol mewn digwyddiad a gynhaliwyd ar 01 Mai 2025 yn CMD Ltd (rhan o Grŵp Makefast), Parc Busnes Aber-miwl.
Nod y gronfa gyfalaf newydd hon, a lansiwyd drwy Fargen Dwf Canolbarth Cymru (Tyfu Canolbarth Cymru), yw helpu busnesau i fuddsoddi mewn safleoedd newydd neu rai estynedig - gan fynd i'r afael ag un o'r prif heriau sy'n wynebu mentrau sy'n tyfu yn y rhanbarth. Ar hyn o bryd, mae'n gronfa gyfyngedig o £4m.
Daeth busnesau o bob cwr o'r rhanbarth ynghyd yn y digwyddiad lansio i ddysgu rhagor am y gronfa.
Yn ystod y digwyddiad, a gynhaliwyd gan CMD Ltd (rhan o Grŵp Makefast) - enghraifft wych o lwyddiant busnes yng Nghanolbarth Cymru - clywodd busnesau sut y llwyddodd CMD i ehangu i'w cartref newydd gyda chymorth gan Gyngor Sir Powys a Llywodraeth Cymru. Cafodd y rhai a fynychodd gyfle hefyd i fynd ar daith o gwmpas eu safle, y symudwyd iddo yn 2022, i weld drostynt eu hunain sut gall buddsoddi mewn eiddo masnachol gefnogi twf busnes yng Nghanolbarth Cymru.
Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, a'r Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys, Cyd-Cadeiryddion Fwrdd Tyfu Canolbarth Cymru: "Mae'r gronfa hon yn gam sylweddol ymlaen i gefnogi twf busnes yng Nghanolbarth Cymru. Drwy ddarparu buddsoddiad wedi'i dargedu mewn eiddo masnachol, rydyn ni'n helpu busnesau i ehangu, creu swyddi a chryfhau'r economi ranbarthol. Mae sicrhau mynediad at seilwaith addas yn hanfodol ar gyfer datblygiad cynaliadwy."
Ychwanegodd Jack Miller, Rheolwr Gyfarwyddwr CMD Ltd: "Roedden ni wrth ein boddau'n cynnal lansiad y fenter bwysig hon. Mae Cronfa Buddsoddi mewn Eiddo Masnachol Canolbarth Cymru'n cynnig cyfle gwerthfawr i gwmnïau yn y rhanbarth ehangu a ffynnu, gan gyfrannu at les cyffredinol ein cymuned."
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans: "Mae'r Gronfa Buddsoddi mewn Eiddo Masnachol yn dangos ein hymrwymiad i greu'r amodau cywir i fusnesau ffynnu yng Nghanolbarth Cymru. Drwy fynd i'r afael â'r angen hanfodol am seilwaith i fentrau sy'n tyfu, rydyn ni'n gwneud mwy na chefnogi busnesau unigol - rydyn ni'n cryfhau'r economi ranbarthol gyfan. Bydd y buddsoddiad hwn, drwy gyfraniad o £55m gan Lywodraeth Cymru i Fargen Dwf Canolbarth Cymru, yn helpu i ddatgloi potensial, creu swyddi o ansawdd, ac adeiladu dyfodol economaidd mwy gwydn i gymunedau ledled Canolbarth Cymru."
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Fonesig Nia Griffith: "Rwy'n falch iawn bod arian o Fargen Dwf Canolbarth Cymru a ariennir gan Lywodraeth y DU yn cael ei ddefnyddio i helpu busnesau i ehangu a dod o hyd i safleoedd newydd drwy'r Gronfa Eiddo Masnachol. Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud twf economaidd yn brif genhadaeth ein Cynllun ar gyfer Newid, ac rydyn ni'n gwthio hynny ymlaen ym mhob rhan o Gymru, gan helpu i ddileu rhwystrau i dwf a chefnogi busnesau i greu swyddi newydd."
Oherwydd y galw uchel, cafodd y digwyddiad lansio ei lenwi'n llwyr. Fodd bynnag, cynhelir gweminar ddilynol ddydd Iau 15 Mai, rhwng 2:30 a 4:00pm. Bydd y sesiwn ar-lein hon yn darparu'r un wybodaeth allweddol am y gronfa, gan gynnwys sut i wneud cais, ac mae'n agored i bob busnes sydd â diddordeb. I gofrestru ar gyfer y weminar, e-bostiwch: growingmidwales@ceredigion.gov.uk
Mae'r gronfa wedi'i thargedu at sectorau busnes penodol. Rhaid i ymgeiswyr cymwys fod yn fusnesau preifat sydd wedi'u cyfansoddi'n ffurfiol fel Cwmni (Cwmni Cyfyngedig neu Cyfyngedig drwy Warant) neu Bartneriaeth (gyda Chytundeb Partneriaeth), ac yn gweithredu mewn sectorau penodol gan gynnwys Adeiladu, Trydan a Phlymio, Gwybodaeth a Chyfathrebu, Gweithgynhyrchu, Gwasanaethau Proffesiynol, Eiddo Tiriog, a Masnach Cyfanwerthu, Manwerthu a Modurol. Nid yw'r gronfa ar agor i ddatblygwyr eiddo ar hap, cyrff cyhoeddus, na chymdeithasau elusennol.
Mae rhagor o wybodaeth am y gronfa ar gael yma: https://bit.ly/CBEMCanolbarthCymru