1. Canllaw Defnyddiwr
3. Pethau y mae angen i chi eu gwybod
3.1 Y prif egwyddorion
Yn gyntaf, rhaid i chi gael sgwrs gychwynnol â Thîm Rheoli'r Gronfa. Gellir cysylltu â'r Tîm drwy ebost yma: tyfucanolbarthcymru@ceredigion.llyw.cymru.
- Rhaid nad yw eich prosiect wedi dechrau cyn ein bod yn eich gwahodd i ddatblygu 'Cynnig Hyfywedd'.
- Mae yna amserlenni ar gyfer cwblhau pob un o gamau'r broses gwneud cais.
- Rhaid eich bod yn gallu cyfrannu o leiaf 55% o gostau cyfan eich prosiect.
- Ni fydd unrhyw gyllid ar gael ymlaen llaw ar gyfer costau datblygu'r prosiect, ond cyn gynted ag y bydd eich cynnig llawn wedi'i gymeradwyo ac y bydd dyfarniad grant wedi'i gadarnhau, bydd modd i chi hawlio costau cymwys yn ôl-weithredol.
- Gall yr holl gostau cyflawni cymwys gael eu hawlio'n ôl-weithredol bob chwarter.
- Mae gennym lawer o arweiniad ynghylch arfer da. Rydym yn argymell eich bod yn darllen yr arweiniad i gyd er mwyn eich helpu i ddatblygu a rheoli eich prosiect.
Mae'n bwysig cynllunio eich prosiect yn ofalus, gan gynnwys y costau a'r amserlenni, a chael cefnogaeth i'ch prosiect cyn dechrau llunio eich cynigion. Bydd yr arweiniad isod yn eich helpu i feddwl am yr hyn y dylech ei ystyried a'r costau sydd i'w talu.
3.2 Beth y byddwn yn ei ariannu
Bydd pob prosiect yn rhwym wrth gyfradd ymyrryd (neu ganran talu) a gytunwyd. Beth bynnag, ni all cyfraniad y Gronfa fod yn fwy na 45% o gost gyfan y prosiect neu £1m.
Rydym yn ariannu prosiectau:
- sy'n canolbwyntio yn glir ar welliannau i eiddo masnachol
- sy'n ystyried pob un o'r tri amcan buddsoddi
- sydd â chynllun clir gyda dechrau, canol a diwedd pendant
- nad ydynt wedi dechrau'n barod
- sy'n gallu dangos yr angen am fuddsoddiad gan Fargen Twf Canolbarth Cymru.
Gall y Gronfa gefnogi ystod eang o weithgareddau a chostau uniongyrchol prosiectau, e.e.:
- gwaith cyfalaf: codi eiddo newydd, ymestyn a moderneiddio eiddo, a gwaith cadwraeth
- ffïoedd a gwasanaethau proffesiynol
- costau gwaith hyrwyddo / digwyddiadau
- costau yswiriant sy'n ymwneud â phrosiectau
- caffael tir a chostau sy'n gysylltiedig â'i brynu.
Mae arweiniad penodol ar gael ynghylch Costau Cyfalaf Cymwys y gellir eu cynnwys.
3.3 Eich cyfraniad chi i gostau'r prosiect
Disgwylir i arian Bargen Twf Canolbarth Cymru ysgogi cyllid ar y cyd gan bartneriaid prosiectau ar draws holl bortffolio gweithgarwch y Fargen Twf.
Rhaid eich bod yn gallu cyfrannu o leiaf 55% o gostau cyfan eich prosiect. Gall hynny gynnwys cyfraniadau sydd ar ffurf arian parod a chyfraniadau nad ydynt ar ffurf arian parod, costau safle neu gyfuniad o bob un o'r rhain.
Os yw eich prosiect yn cael cyllid gan ddosbarthwyr cronfeydd eraill, gall hynny gael ei ystyried yn rhan o'ch cyllid ar y cyd. Fodd bynnag, bydd gwerth cyfraniad(au) o'r fath yn cael ei ychwanegu at werth y grant a geisir gan y Gronfa hon. Ni all gwerth cyfun pob cyfraniad o'r fath fod yn fwy na 45% o gost gyfan y prosiect neu £1m, h.y. bydd y gyfradd ymyrryd gan y Gronfa hon yn cael ei gostwng er mwyn ystyried cyllid ar y cyd gan ddosbarthwyr cronfeydd eraill.