5.1 Cyd-fynd â chynllun gwaith Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain
Yn aml, bydd y gwaith o gyflawni prosiectau cyfalaf yn cyd-fynd â Chynllun Gwaith 2020 Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA (PDF, 75 KB), sy'n ffordd o ddatblygu eich cynigion yn raddol mewn camau rhesymegol, gyda phob cam wedi'i ddiffinio yn glir o safbwynt y mewnbynnau ac o safbwynt yr allbynnau a ddisgwylir. Ceir wyth o Gamau RIBA, a chânt eu hesbonio isod.
Ar gyfer eich 'Cynnig Hyfywedd', byddem yn disgwyl i chi fod wedi cwblhau gofynion Cam 0 RIBA (gwaith ar hyfywedd prosiect).
Ar gyfer eich 'Cynnig Datblygedig', byddem yn disgwyl i chi fod wedi cwblhau Camau 0 i 3 RIBA gan gynnwys Cam 3. Erbyn hynny, dylai eich prosiect fod wedi'i ddylunio i raddau helaeth ac wedi'i gyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol er mwyn iddo gael ei gymeradwyo, os yw hynny'n berthnasol[1].
Efallai na fyddwch wedi cwblhau'r dyluniadau technegol llawn, ond dylai fod gennych gostiadau pendant iawn sy'n dweud wrthych pa ganlyniadau ariannol y gallwch eu disgwyl pan gaiff y cynigion eu gosod ar dendr.
Rydym wedi paratoi Strategaeth Ddylunio i'ch arwain chi a dylunwyr eich prosiect. Mae glynu wrth y Strategaeth yn un o ofynion unrhyw ddyfarniad grant, a'i nod yw sicrhau bod cynigion o'r ansawdd gorau'n dod gerbron, sy'n sicrhau'r canlyniadau gorau posibl o ran gwerth cymdeithasol ar gyfer eich prosiect ac sy'n sicrhau'r ystyriaethau ehangach gorau posibl o ran Gwerth am Arian.
Disgwylir hefyd i chi brofi bod gennych y wybodaeth, y sgiliau, y capasiti a'r gallu angenrheidiol i ddylunio a chyflawni eich prosiect yn llwyddiannus, neu'ch bod wedi crynhoi'r pethau hynny ynghyd.
5.2 Adolygu cynnydd yn ystod y Cam Datblygu
Bydd Tîm Rheoli'r Gronfa yn adolygu cynnydd eich prosiect yn ystod y Cam Datblygu i weld sut hwyl yr ydych yn ei chael arni ac i'ch cynorthwyo drwy'r broses gynnig. Byddwn yn cytuno ar amserau priodol i drafod cynnydd â chi, ond gallwch ddisgwyl cael cyfarfod o leiaf unwaith y mis â ni.
Prif ddiben yr adolygiadau hyn fydd cadarnhau:
bod y prosiect yn datblygu'n dda a'i fod yn parhau i fynd i'r afael yn briodol ag amcanion y Gronfa
bod y costau a lefelau cyllid partneriaeth yn gyfredol a'u bod yn parhau i ddangos bod eich prosiect yn hyfyw
bod risgiau'r prosiect yn rhai y gellir eu rheoli
bod cynllun cyflawni prosiect clir ar waith i lywio camau i ddatblygu'r cynnig ymhellach.
Bydd yr adolygiadau hefyd yn rhoi cyfle i ystyried unrhyw newidiadau sylweddol a thynnu sylw at unrhyw feysydd lle mae angen gwneud gwaith pellach. Os ceir pryderon difrifol, mae'n bosibl y byddwn yn argymell eich bod yn rhoi'r gorau i'r gwaith o baratoi eich cynnig.
Dylech ddewis yn ofalus pryd i gyflwyno eich 'Cynnig Datblygedig'. Peidiwch â rhuthro i'w gyflwyno cyn eich bod yn barod, a sicrhewch eich bod wedi ystyried effaith eich cynnig yn llawn a sut y byddwch yn ei reoli yn ystod y Cam Cyflawni a phan fydd wedi'i gwblhau.
5.3 Gwerthuso ac adrodd
Mae gwerthuso da'n eich helpu i ddeall eich effaith ac yn rhoi cyfle i eraill ddysgu o'ch profiad chi. Mae'r wybodaeth honno, yn ei thro, yn ein helpu ni i nodi'r gwahaniaeth y mae ein grantiau'n ei wneud.
Rydym yn argymell eich bod yn ymgorffori gwaith gwerthuso o ddechrau eich prosiect. Mae ein tystiolaeth yn dangos po fwyaf gofalus y mae prosiectau'n cyllidebu ar gyfer y gwaith o'u gwerthuso, y gorau yw ansawdd y cynnyrch terfynol.
Dylech gynnwys cyllideb ar gyfer costau gwerthuso ac adrodd yn eich 'Cynnig Datblygedig'.
[1] Fel un o amodau unrhyw ddyfarniad grant, bydd yn rhaid i chi ymrwymo i gael caniatâd cynllunio llawn ar gyfer eich prosiect (os yw hynny'n berthnasol) a chadarnhau y byddwch yn cydymffurfio'n llawn ag unrhyw amodau cynllunio a osodir.