Mae NutriBREAD Cymru yn canolbwyntio ar ddatblygu bara gwyn wedi'i wella'n faethol, sy'n cynyddu lefelau fitamin D, protein a ffibr tra'n lleihau halen — heb gyfaddawdu ar flas na gwead. Mae'r prosiect yn defnyddio madarch Wood Oyster a Shiitake a dyfir yng Nghymru, wedi'u tyfu mewn amgylcheddau rheoledig ac yn cael eu hamlygu i olau UV i gynyddu lefelau fitamin D2 yn naturiol. Mae'r cynhwysion hyn hefyd yn darparu blas umami naturiol, gan alluogi gostyngiad sylweddol mewn halen mewn un o brif fwydydd y DU.
Mae NutriBREAD Cymru yn adeiladu ar ymchwil flaenorol, gan gynnwys y cydweithrediad BetterBread rhwng Shipton Mill a Phrifysgol Aberystwyth, ac astudiaeth ddichonoldeb llwyddiannus Cam 1 y Fenter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI) a arweiniwyd gan Tetrim Teas Cyf. Dangosodd y gwaith cynharach hwn dderbyniad cryf gan ddefnyddwyr ochr yn ochr â gostyngiad o hyd at 50 y cant mewn halen, a chynhyrchodd ddiddordeb cynnar gan ysgolion, gwasanaethau arlwyo'r GIG a manwerthwyr.
Caiff y ddau brosiect eu cyflwyno drwy gydweithrediad rhanbarthol cryf. Mae Prifysgol Aberystwyth yn arwain y gwaith o broffilio maethol, astudiaethau treuliad a modelu iechyd cyhoeddus, gyda chefnogaeth cyfleusterau dadansoddol AberInnovation. Mae Shipton Mill yn arwain ar dreialon pobi ar raddfa beilot, mae Canolfan Fwyd Cymru yn darparu cymorth technegol a hylendid, mae Twisted Orange yn arwain ar barodrwydd y farchnad a phecynnu dwyieithog, ac mae RSSL yn darparu profion labordy achrededig a dadansoddiad oes silff.
Gyda chynhwysion yn cael eu tyfu a'u prosesu yng Ngheredigion a Gwynedd, mae'r prosiectau'n cefnogi datblygiad clwstwr amaeth-fwyd sy'n seiliedig ar le, ac maent bellach yn paratoi cynhyrchion ar gyfer eu cyflwyno'n fasnachol ar draws arlwyo'r sector cyhoeddus a marchnadoedd manwerthu.
