Toggle menu

Cyllid a chymorth busnes er mwyn helpu busnesau yng Nghanolbarth Cymru i fabwysiadu technoleg LoRaWAN glyfar

20.05.26 Estynnir gwahoddiad i fusnesau ar draws Canolbarth Cymru i fanteisio ar gyllid newydd a chymorth arbenigol er mwyn eu helpu i fabwysiadu technolegau arloesol LoRaWAN (Rhwydwaith Ardal Eang Pellter Hir) er mwyn rhoi hwb i gynhyrchiant, fel rhan o brosiect LoRaWAN Tyfu Canolbarth Cymru.

Gall busnesau cymwys yng Ngheredigion a Phowys wneud cais am grantiau o hyd at £4,999 er mwyn cynorthwyo gyda'r gwaith o brynu a gosod dyfeisiau, synwyryddion a phyrth wedi'u galluogi gan LoRaWAN. Cynlluniwyd y cyllid er mwyn helpu busnesau i integreiddio technolegau digidol clyfar, nad ydynt yn defnyddio llawer o bŵer, yn eu gweithrediadau dydd i ddydd, gan wella effeithlonrwydd, lleihau costau a chynorthwyo penderfyniadau gwell.

Un o brif nodweddion y prosiect yw'r ffaith nad oes gofyn cael gwybodaeth dechnegol flaenorol.  Bydd Antur Cymru yn cynorthwyo busnesau trwy gydol y prosiect, gan ddarparu canllawiau ymarferol o'r cychwyn. Mae hyn yn cynnwys cynorthwyo yn ystod y broses o wneud cais am grant, helpu busnesau i nodi achosion defnydd ymarferol a pherthnasol, rhoi cyngor am y dyfeisiau a'r synwyryddion mwyaf priodol, a thywys y defnydd er mwyn sicrhau bod datrysiadau yn cael eu gweithredu mewn ffordd effeithiol.

Mae technoleg LoRaWAN yn cynnig ystod eang o gymwysiadau ymarferol ar gyfer busnesau ar draws Canolbarth Cymru. Er enghraifft:

  • Amaethyddiaeth a rheoli tir - caiff ei ddefnyddio i fonitro cyflwr y pridd, olrhain anifeiliaid a rheoli adnoddau dŵr mewn ffordd fwy effeithlon.
  • Busnesau twristiaeth a lletygarwch - trefniadau rheoli ynni a monitro amgylcheddol gwell ar draws safleoedd llety.
  • Lleoliadau masnachol a gweithgynhyrchu - cymorth wrth olrhain asedau, monitro offer a chynllunio gwaith cynnal a chadw.
  • Busnesau manwerthu ac sy'n seiliedig ar wasanaethau - monitro tymheredd, defnydd ynni a stoc.

Mae cymwysiadau monitro amgylcheddol, megis rhybuddion llifogydd a synwyryddion ansawdd aer, yn cynnig dirnadaeth werthfawr i fusnesau sy'n gweithredu ar draws lleoliadau gwledig ac anghysbell hefyd. Mae modd gweld manylion pellach am y dechnoleg ar wefan Tyfu Canolbarth Cymru isod.

Trwy gyfuno cyllid gyda chymorth arbenigol, nod y prosiect yw gwaredu'r rhwystrau a helpu busnesau i fabwysiadu technoleg mewn ffordd sy'n cynnig manteision ymarferol go iawn - gan ddatblygu gallu digidol dros y tymor hwy ar draws y rhanbarth.

Mae'r prosiect yn rhan o Raglen Ddigidol Tyfu Canolbarth Cymru, sy'n cynorthwyo twf economaidd rhanbarthol dros y tymor hir trwy well gweithgarwch mabwysiadu digidol. Mae'n eistedd o fewn Bargen Twf ehangach Canolbarth Cymru - buddsoddiad o £110m gan Lywodraethau Cymru a'r DU er mwyn cynorthwyo seilwaith economaidd, gwella cynhyrchiant a datgloi buddsoddiad cyhoeddus a phreifat pellach ar draws y rhanbarth.

Dywedodd Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, a Chynghorydd Jake Berriman, Arweinydd Cyngor Sir Powys, Cyd-Gadeiryddion Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru: "Rydym yn cydnabod bod mabwysiadu technoleg newydd yn gallu teimlo fel cam arwyddocaol i nifer o fusnesau, yn enwedig pan fo gofyn cael gwybodaeth arbenigol.

"Cynlluniwyd y fenter hon er mwyn gwaredu'r rhwystrau hynny, trwy gyfuno cyllid ar ffurf grantiau wedi'i dargedu, gyda chymorth arbenigol ymarferol - nid oes angen i fusnesau fod yn arbenigwyr ym maes technoleg i fanteisio ar hyn. Gall y prosiect hwn wneud gwir wahaniaeth i'w gweithrediadau, eu cynhyrchiant a'u twf."

Cefnogir busnesau trwy gydol y cyfnod gan Antur Cymru, sy'n darparu'r prosiect ar ran Tyfu Canolbarth Cymru, gan ddarparu canllawiau ymarferol o'r cychwyn cyntaf.

Dywedodd Kevin Harrington, Rheolwr Datblygu Busnes, Antur Cymru:  "Mae'n bleser gan Antur Cymru weithio gyda Chynghorau Sir Ceredigion a Phowys, trwy gyfrwng rhaglen Tyfu Canolbarth Cymru, er mwyn cyflwyno Prosiect Ysgogi LoRaWAN. 

"Am dros 2 flynedd bellach, rydym wedi bod yn darparu'r prosiect Busnes SMART, a ariannwyd trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, a bydd y prosiect hwn yn datblygu'r perthnasoedd yr ydym wedi eu meithrin gyda Busnesau Bychain a Chanolig yng Nghanolbarth Cymru er mwyn manteisio ar y cyfleoedd y mae rhwydwaith LoRaWAN a dyfeisiau IOT (Rhyngrwyd Pethau) yn eu cynnig er mwyn gwneud eu busnesau yn fwy cynaliadwy dros y tymor hwy. Bydd y prosiect yn arloesi o ran y ffordd y mae busnesau yn gweithio, gan wella eu perfformiad busnes a hefyd, cynnig gwersi ymarferol am arfer gorau busnes trwy fabwysiadu Technolegau Digidol"

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price AS: "Mae gwella cynhyrchiant yn allweddol i ddatgloi potensial economi Cymru, ac mae hynny'n golygu sicrhau bod gan fusnesau ym mhob rhan o'r wlad yr offer a'r cymorth sydd eu hangen i dyfu ac arloesi. Mae prosiectau fel hyn yn dangos ffyrdd ymarferol o gynyddu mabwysiadu digidol, gyda chefnogaeth cyllid Llywodraeth Cymru drwy Fargen Twf Canolbarth Cymru."

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Anna McMorrin AS: "Mae cefnogi busnesau Cymru i dyfu yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth y DU. Mae'r buddsoddiad yn Nghynllun Twf Canolbarth Cymru yn sicrhau gwelliannau gwirioneddol i fusnesau ar draws y rhanbarth, gan gynorthwyo'r economi leol a chreu mwy o swyddi.

"Bydd y rhaglen newydd hon yn golygu y bydd BBaCh ledled Canolbarth Cymru yn cael mynediad at gyllid a chymorth technegol i gynyddu eu cynhyrchiant a'u helpu i lwyddo."

Anogir busnesau sydd â diddordeb mewn ymgeisio i Fynegi Diddordeb trwy wefan Tyfu Canolbarth Cymru: www.tyfucanolbarth.cymru/LoRaWAN 

 

Antur Cymru