- Cefnogaeth Innovate UK trwy cyllid:Cymorth Ariannol Lleiaf
Astudiaeth achos: Trawsnewid gwastraff bwyd a fferm yn atebion gwrtaith cynaliadwy
Mae Cleobury Project Management Ltd (sy'n masnachu fel CleoburyPM), sydd wedi'i leoli ym Mhowys, yn datblygu technolegau arloesol sy'n troi gwastraff amaethyddol a bwyd yn atebion ymarferol, effaith isel ar gyfer ffermio. Gyda chefnogaeth Innovate UK, mae'r cwmni'n cyflwyno prosiect SENORA, sy'n anelu at greu gwrtaith cynaliadwy, llawn maetholion gan ddefnyddio ffrydiau gwastraff megis treuliad gwastraff bwyd a chregyn wyau.
Mae CleoburyPM yn fusnes ymchwil a datblygu sy'n cael ei yrru gan arloesedd, yn arbenigo mewn sychu chwistrellu, amgáu maetholion a gwerthuso gwastraff. Wedi'i gyd-sefydlu gan yr academydd a'r ffermwraig Mandy Lloyd, ac yn cael ei arwain yn y prosiect hwn gan y Prif Weithredwr a Ysgolhaig Ffermio Nuffield, Dr Ali Warren-Walker, mae'r cwmni'n dod ag arbenigedd gwyddonol a phrofiad ffermio ymarferol ynghyd. Drwy SENORA, mae'r tîm yn defnyddio technegau prosesu uwch i fynd i'r afael â heriau allweddol sy'n wynebu amaethyddiaeth, gan gynnwys costau mewnbynnau cynyddol, colledion maetholion a phwysau amgylcheddol sy'n gysylltiedig â gwrteithiau synthetig.
Mae'r gwrtaith sy'n cael ei ddatblygu drwy SENORA yn defnyddio treuliad a sgil-gynhyrchion eraill, sy'n cael eu trawsnewid yn gynnyrch sych, sefydlog drwy ddefnyddio technoleg sychu chwistrellu ac amgáu. Mae sgil-gynhyrchion megis cregyn wyau yn gweithredu fel sefydlogwr naturiol, gan wella cadw nitrogen ac ychwanegu calsiwm i helpu cydbwyso pH y pridd. Mae'r dull hwn yn lleihau problemau cyffredin sy'n gysylltiedig â gwrteithiau synthetig, megis golchi nitrogen a'i anweddiad, a all gyfrannu at lygredd dŵr ac allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Mae cefnogaeth Innovate UK wedi galluogi CleoburyPM i fireinio'r fformiwla a sicrhau bod y cynnyrch yn bodloni gofynion rheoleiddiol, gan gynnwys Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol (Cymru) a Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau. Drwy drosi treuliad hylifol yn ffurf bowdrog ysgafn, mae'r prosiect hefyd yn mynd i'r afael â heriau ymarferol o ran storio, cludo a chymhwyso, gan wneud y gwrtaith yn haws ac yn fwy cost-effeithiol i ffermwyr ei ddefnyddio.
Mae treialon dan do ac yn y maes gyda mabwysiadwyr cynnar yng Nghanolbarth Cymru yn rhan ganolog o'r prosiect, gan asesu effeithiau ar iechyd y pridd, effeithlonrwydd maetholion a pherfformiad cnydau. Mae'r gwaith yn cefnogi gwelliannau hirdymor i gynhyrchiant pridd drwy gynyddu deunydd organig, cefnogi gweithgarwch microbaidd a lleihau dibyniaeth ar fewnbynnau sy'n deillio o danwydd ffosil.
Drwy SENORA, mae CleoburyPM yn dangos sut y gellir cymhwyso egwyddorion economi gylchol ar raddfa fferm, gan droi gwastraff yn werth tra'n cefnogi amaethyddiaeth gynaliadwy. Mae'r prosiect yn gosod Canolbarth a Gogledd Cymru fel canolfan arloesi ym maes datblygu gwrteithiau eco-gyfeillgar, gan ddarparu buddion i ffermwyr, yr amgylchedd ac economïau gwledig. Mae CleoburyPM bellach yn defnyddio'r wybodaeth a gafwyd drwy SENORA mewn prosiect ADOPT gyda Shed Field Growers, gan archwilio amgáu a sychu chwistrellu ar dreuliad sy'n deillio o'r fferm ar gyfer cymwysiadau adfywiol.
Dywedodd llefarydd ar ran Cleobury: "Drwy SENORA, rydym yn Cleobury yn dangos sut y gellir trawsnewid gwastraff bwyd a gwastraff ar y fferm yn fewnbwn ymarferol o werth uwch ar gyfer amaethyddiaeth. Mae cefnogaeth Innovate UK wedi ein galluogi i ddatblygu ateb sydd nid yn unig yn gwella effeithlonrwydd maetholion ac yn lleihau allyriadau, ond hefyd yn helpu ffermwyr a'r diwydiant i symud tuag at systemau mwy cylchol a gwydn."
Ffeithiau'r prosiect
- Busnes: Cleobury Project Management Ltd (CleoburyPM)
- Lleoliad: Powys (gyda safleoedd yng Ngheredigion a Chaerfyrddin hefyd)
- Cefnogaeth Innovate UK: Cymorth Ariannol Lleiaf (MFA)
- Prosiect: Sustainable Encapsulation and Nutrient Optimisation foR Agriculture (SENORA)
- Ffocws: Gwrtaith wedi'i gynhyrchu o wastraff bwyd a fferm, gan gynnwys treuliad a chregyn wyau
- Effaith ehangach: Gwell effeithlonrwydd maetholion, llai o allyriadau a chefnogaeth i amaethyddiaeth gylchol
