Cynlluniwyd Prosiect Ysgogi LoRaWAN Tyfu Canolbarth Cymru er mwyn helpu busnesau ar draws Ceredigion a Phowys i archwilio a mabwysiadu technolegau digidol newydd sy'n gallu gwella effeithlonrwydd, lleihau costau a chynorthwyo twf.
Cynlluniwyd Prosiect Ysgogi LoRaWAN Tyfu Canolbarth Cymru er mwyn helpu busnesau ar draws Ceredigion a Phowys i archwilio a mabwysiadu technolegau digidol newydd sy'n gallu gwella effeithlonrwydd, lleihau costau a chynorthwyo twf.
Mae'r prosiect yn darparu cyllid ar ffurf grantiau sydd wedi'i dargedu, law yn llaw â chymorth busnes penodedig er mwyn galluogi busnesau lleol i dreialu a gweithredu datrysiadau sy'n seiliedig ar LoRaWAN yn eu gweithrediadau dydd i ddydd. Trwy leihau'r gost a chymhlethdod y gwaith o fabwysiadu'r dechnoleg hon, nod y prosiect yw cyflymu'r arfer o fanteisio ar y dechnoleg ddigidol ar draws y rhanbarth, a dangos y manteision ymarferol y mae'n gallu eu cynnig.
Mae prif amcanion y prosiect fel a ganlyn:
- Cynorthwyo busnesau i fabwysiadu datrysiadau arloesol sy'n seiliedig ar ddata
- Gwella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd gweithredol
- Galluogi i benderfyniadau gwell gael eu gwneud trwy fanteisio ar ddata amser real
- Annog mabwysiadu digidol ehangach ar draws sectorau allweddol yng Nghanolbarth Cymru
- Cyfrannu at dwf economaidd rhanbarthol dros y tymor hir
Beth yw LoRaWAN a sut allai gynnig budd i'ch busnes chi?
Mae LoRaWAN (Rhwydwaith Ardal Eang Pellter Hir) yn dechnoleg ddiwifr a gynlluniwyd i gysylltu dyfeisiau, synwyryddion ac offer dros bellteroedd hir, gan ddefnyddio ychydig iawn o bŵer yn unig. Yn syml, mae'n caniatáu i fusnesau gasglu a monitro data ar draws eu gweithrediadau heb yr angen am seilwaith drud neu gysylltedd cyson.
Yn wahanol i rwydweithiau symudol neu Wi-Fi, mae LoRaWAN wedi cael ei greu er mwyn anfon symiau bychain o ddata (megis tymheredd, lleoliad, lefelau defnyddio neu rybuddion) o synwyryddion i ddangosfwrdd ar-lein. Gall y synwyryddion hyn redeg am flynyddoedd gan ddefnyddio un batri, a gallant weithio mewn ffordd ddibynadwy hyd yn oed mewn ardaloedd gwledig neu anodd i'w cyrraedd.
Sut mae'n gweithio?
Mae LoRaWAN yn defnyddio synwyryddion bychain wedi'u gosod ar offer, adeiladau neu asedau yn yr awyr agored. Mae'r synwyryddion hyn yn anfon data at borth gerllaw, yna caiff y wybodaeth ei throsglwyddo mewn ffordd ddiogel i blatfform cwmwl. Yna, gall busnesau weld y data hwn a'i ddadansoddi trwy gyfrwng dangosfyrddau syml, a fydd yn eu helpu i ddeall yr hyn sy'n digwydd mewn amser real a gwneud penderfyniadau gwybodus.
Mae'n bwysig nodi nad oes angen unrhyw wybodaeth dechnegol flaenorol arnoch. Fel rhan o'r prosiect hwn, bydd cymorth busnes penodedig ar gael er mwyn eich helpu i nodi achosion defnydd addas, dewis yr offer cywir a'ch tywys trwy'r gwaith gosod a defnyddio.
Beth yw'r manteision i fusnesau?
Gall LoRaWAN gynorthwyo ystod eang o gymwysiadau ymarferol ar draws gwahanol sectorau. Er enghraifft, gall busnesau:
- Fonitro'r defnydd a wneir o ynni er mwyn lleihau costau
- Olrhain asedau, cerbydau neu anifeiliaid
- Cael rhybuddion ynghylch namau ar offer neu anghenion cynnal a chadw
- Monitro amodau amgylcheddol megis y tymheredd, lefelau lleithder neu lefelau dŵr
- Gwella effeithlonrwydd trwy awtomeiddio gwiriadau a phrosesau
Gan bod cost y dechnoleg yn isel, a'i bod yn effeithlon o ran ynni ac yn raddiadwy, mae'n cynnig ffordd ymarferol i fusnesau ddechrau mabwysiadu datrysiadau digidol heb orfod gwneud buddsoddiad sylweddol yn y lle cyntaf.
Cymorth sydd ar gael ar ffurf grant
Trwy gyfrwng Prosiect Ysgogi LoRaWAN Tyfu Canolbarth Cymru, gall busnesau cymwys yng Ngheredigion a Phowys wneud cais am grant cyfalaf o hyd at £4,999 i ariannu synwyryddion, dyfeisiau a phyrth.
Yn ogystal, darparir cymorth busnes wedi'i ariannu'n llawn er mwyn eich helpu i:
- Ddeall sut y gallai LoRaWAN gynnig budd i'ch busnes chi
- Nodi dyfeisiau a datrysiadau addas
- Datblygu eich cais am grant
- Cynorthwyo defnydd o'r dechnoleg
Mae hyn yn golygu na fydd gofyn cael unrhyw brofiad blaenorol neu arbenigedd dechnegol gan bod y prosiect wedi cael ei gynllunio i'ch cynorthwyo bob cam o'r ffordd.
Cymryd rhan
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cynorthwyo effeithlonrwydd, lleihau costau neu archwilio ffyrdd newydd o ddefnyddio data yn eich busnes, rydym yn eich annog i Fynegi eich Diddordeb trwy gyfrwng y ddolen isod.
Grant Busnes - Datganiad o Ddiddordeb
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Ar ôl i chi Fynegi eich Diddordeb, bydd tîm y prosiect yn ei adolygu i wirio eich bod yn gymwys ac i ddeall anghenion eich busnes.
Os caiff eich cais ei ddwyn ymlaen, bydd Antur Cymru* yn cysylltu â chi i nodi'r datrysiadau LoRaWAN mwyaf priodol ar gyfer eich busnes.
Yn dilyn hyn, byddwch yn cael eich cynorthwyo i ddatblygu cais llawn, gan gynnwys dewis dyfeisiau a chwblhau'r costau.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, dyfarnir cyllid i chi a byddwch yn cael cymorth parhaus er mwyn helpu i weithredu eich datrysiad a manteisio i'r eithaf ar y dechnoleg.
*Darparir prosiect LoRaWAN gan Antur Cymru ar ran Tyfu Canolbarth Cymru. Maent yn darparu cymorth arbenigol i fusnesau yn ystod pob cam - o gyngor cychwynnol a gwneud cais, i'w ddefnyddio.
