2. Dogfennau Canllaw
2.4 Y Model Busnes 5-Achos
Mae'r Model Busnes 5 Achos, a elwir hefyd yn 'Achosion Busnes Gwell' neu'n 'fodel Trysorlys Ei Fawrhydi', yn fframwaith ar gyfer gwerthuso prosiectau. Mae'r model yn cynnwys yr Achos Strategol (pam?), yr Achos Economaidd (gwerth am arian), yr Achos Masnachol (sut i gaffael), yr Achos Ariannol (fforddiadwyedd) a'r Achos Rheoli (sut i gyflawni).
Caiff ei ddefnyddio, cyn bod prosiectau'n dechrau, i sicrhau bod pob cyfiawnhad drostynt, eu bod yn cynnig gwerth, eu bod yn gadarn o safbwynt masnachol ac ariannol, a bod modd eu cyflawni.
- Achos Strategol: Mae'n cyfiawnhau'r angen am y prosiect ac yn ei alinio ag amcanion y sefydliad. Mae'n gofyn: "Pam yr ydym yn gwneud hyn?"
- Achos Economaidd: Mae'n asesu gwahanol opsiynau er mwyn penderfynu ar yr un sy'n darparu'r gwerth gorau am arian a'r elw gorau ar fuddsoddiad, gan ystyried y buddion a'r costau. Mae'n ateb: "Beth yw'r ffordd orau o'i wneud?"
- Achos Masnachol:Mae'n amlinellu sut y bydd y prosiect yn cael ei gaffael, gan gynnwys sut y bydd nwyddau a gwasanaethau'n cael eu caffael oddi wrth gyflenwyr allanol. Mae'n gofyn: "Sut y byddwn yn prynu'r ateb?"
- Achos Ariannol:Mae'n asesu a yw'r prosiect yn fforddiadwy ac mae'n nodi ffynhonnell y cyllid. Mae'n pennu: "Sut y byddwn yn talu amdano?"
- Achos Rheoli: Mae'n disgrifio sut y bydd y prosiect yn cael ei weithredu, gan gynnwys y cynllun, yr amserlen, a strwythur llywodraethiant. Mae'n mynd i'r afael â: "Sut y byddwn yn rheoli'r modd y caiff y prosiect ei gyflawni?"
Bydd Swyddfa Rheoli'r Portffolio yn gweithio gyda phrosiectau dethol i fabwysiadu'r llwybr priodol ar gyfer datblygu achos busnes. Fodd bynnag, dylech nodi bod hynny'n un o ofynion Bargen Twf Canolbarth Cymru ac y bydd angen i sefydliadau arweiniol sicrhau bod ganddynt ddigon o adnoddau i gwblhau cam yr achos busnes ynghyd ag unrhyw brosesau ategol (e.e. cynllunio).
