2. Dogfennau Canllaw
2.1 Ffactorau Llwyddiant Allweddol ar gyfer Asesu Prosiectau Arfaethedig i'r Portffolio
Mae Ffactorau Llwyddiant Allweddol yn adnoddau hanfodol ar gyfer gwerthuso, blaenoriaethu a rheoli cynigion buddsoddi ym Mhortffolio Bargen Twf Canolbarth Cymru. Bydd y ffactorau'n cefnogi penderfyniadau strategol a chyson sy'n cyd-fynd ag amcanion rhanbarthol:
- Byddant yn sicrhau bod cynigion yn hybu'n uniongyrchol nodau'r Fargen Twf — sy'n cynnwys newid trawsnewidiol, twf cynhwysol a datblygiad sectorau.
- Byddant yn darparu fframwaith wedi'i safoni ar gyfer asesu prosiectau amrywiol, a fydd yn galluogi penderfyniadau teg a thryloyw ar draws rhanddeiliaid.
A. Gwerth strategol
A1. Aliniad strategol â Bargen Twf Canolbarth Cymru
Y graddau y mae'r cynnig yn cefnogi amcanion strategol Bargen Twf Canolbarth Cymru:
- Yn cyfrannu'n glir i nodau strategol Bargen Twf Canolbarth Cymru.
- Yn cyd-fynd â sectorau sy'n flaenoriaeth (e.e. bwyd-amaeth, ynni, digidol).
- Yn sbarduno twf cynhwysol a chydnerthedd rhanbarthol.
A2. Effaith drawsnewidiol ar y rhanbarth
Y potensial i'r prosiect gyflawni newid sylweddol a pharhaol:
- Yn dangos potensial i sicrhau trawsnewid economaidd, cymdeithasol neu amgylcheddol.
- Yn mynd y tu hwnt i welliannau cynyddrannol er mwyn cyflawni gwerth rhanbarthol hirdymor.
A3. Gwerth am arian
Effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd buddsoddi arian cyhoeddus:
- Achos economaidd cryf, ac yn rhagweld y bydd swyddi'n cael eu creu ac y bydd Gwerth Ychwanegol Gros yn cynyddu.
- Yn dangos defnydd effeithlon o arian cyhoeddus.
- Potensial i ysgogi cyllid ychwanegol ac effaith economaidd ehangach.
B. Parodrwydd
B4. Fforddiadwyedd
Dichonoldeb ariannol y cynnig a'i barodrwydd o ran cyllid:
- Caiff y costau cyfalaf eu deall ac maent yn gymesur.
- Mae lefel ymyriad Bargen Twf Canolbarth Cymru wedi'i diffinio.
- Mae cyllid cyfatebol wedi'i sicrhau neu mae cryn dipyn o'r broses o'i sicrhau wedi'i chyflawni, a cheir tystiolaeth o ysgogi arian o'r sector preifat.
- Mae cyllid refeniw ar gyfer y camau datblygu a chyflawni wedi'i gadarnhau neu wedi'i gynllunio.
B5. Cymhlethdod
Mae cymhlethdod y gwaith cyflawni wedi'i ystyried ynghyd â'r risgiau cysylltiedig:
- Mae gofynion cynllunio a dibyniaethau allanol wedi'u nodi a gellir ymdopi â nhw.
- Caiff amryw gamau'r prosiect eu deall (dilyniannol, modwlar neu addasol).
- Mae cymhlethdod y gwaith cyflawni wedi'i gategoreiddio er mwyn llywio'r gwaith o adnabod risgiau a chynllunio adnoddau.
B6. Amseroldeb
Parodrwydd i gael ei roi ar waith ac i gyflawni o fewn cyfnod penodol:
- Gellir rhoi'r prosiect ar waith cyn pen 6 mis.
- Mae trefniadau llywodraethiant ac adnoddau yn eu lle neu wedi'u cynllunio yn glir.
- Mae'r amserlen ar gyfer cwblhau'r Model Busnes 5 Achos wedi'i diffinio ac mae modd glynu wrthi.
- Mae'r cerrig milltir ar gyfer cyflawni'n realistig; gwarentir y bydd modd cwblhau'r prosiect cyn 2032.
B7. Rheoli
Cryfder trefniadau rheoli'r prosiect:
- Mae gan y prosiect adnoddau priodol ynghyd â strwythurau effeithiol ar gyfer llywodraethiant.
- Ceir tystiolaeth o egwyddorion cadarn ar gyfer cynllunio prosiect.
- Ceir dull cadarn a rhagweithiol o reoli risgiau, rhagdybiaethau, problemau a dibyniaethau.
- Deellir y fethodoleg ar gyfer tracio cynnydd, adrodd, a gwerthuso effaith.
