RHAID i chi gael sgwrs gychwynnol â Thîm Rheoli'r Gronfa er mwyn asesu a yw'r Gronfa yn briodol i chi. Os cytunir ei bod yn briodol, byddwch yn cael eich gwahodd i gyflwyno 'Cynnig Hyfywedd' gan ddefnyddio'r ffurflen hon.
Bydd eich cynnig yn cael ei drin yn hollol gyfrinachol. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau bod prosiectau'n defnyddio'r cyllid mwyaf priodol, mae'n bosibl y bydd Tîm Rheoli'r Gronfa yn rhannu'r wybodaeth hon â phartïon perthnasol eraill.
Rydym yn cydnabod yr holl waith y mae gwneud cais am gyllid a chynllunio prosiect yn ei olygu. Mae'r cyfrif geiriau yn y ffurflen hon wedi'i gadw yn fach yn fwriadol (uchafswm o 1,000 o eiriau) er mwyn lleihau'r amser a'r ymdrech sy'n ofynnol gennych i gwblhau'r Cam Hyfywedd.
Cyn cyflwyno eich cynnig, sicrhewch eich bod wedi darllen y Canllaw i Ddefnyddwyr (sydd ar gael ar dudalen y Gronfa ar y we) y bwriedir iddo eich cynorthwyo. Mae rhagor o wybodaeth am y Gronfa i'w chael yno hefyd.
Mae'r Cam Hyfywedd hwn yn ein helpu i hidlo unrhyw brosiectau sy'n annhebygol o gael cyllid, ac yn eich arbed chi rhag treulio amser yn gweithio'n ddiangen ar 'Gynnig Datblygedig'.
Pan fyddwch yn barod, dylech anfon y ffurflen yn electronig i'r cyfeiriad ebost isod. Os caiff eich 'Cynnig Hyfywedd' ei gyflwyno ar eich rhan gan gynghorydd busnes, byddwn yn defnyddio'r manylion cyswllt a ddarparwyd gennych yn eich gwaith papur ar gyfer unrhyw gyfathrebu'n ymwneud â'ch ymholiad, oni bai eich bod yn nodi fel arall.
Gofyniad o ran cyllid ar y cyd
Rhaid eich bod yn gallu cyfrannu o leiaf 55% o gostau cyfan eich prosiect. Gall hynny gynnwys cyfraniadau sydd ar ffurf arian parod a chyfraniadau nad ydynt ar ffurf arian parod, costau safle neu gyfuniad o bob un o'r rhain.
Os yw eich prosiect yn cael cyllid gan ddosbarthwyr cronfeydd eraill, gall hynny gael ei ystyried yn rhan o'ch cyllid ar y cyd. Fodd bynnag, bydd gwerth cyfraniad(au) o'r fath yn cael ei ychwanegu at werth y grant a geisir gan y Gronfa hon. Ni all gwerth cyfun pob cyfraniad o'r fath fod yn fwy na 45% o gost gyfan y prosiect neu £1m, h.y. bydd y gyfradd ymyrryd gan y Gronfa hon yn cael ei gostwng er mwyn ystyried cyllid ar y cyd gan ddosbarthwyr cronfeydd eraill.
Os yw gwaith ar eich prosiect wedi dechrau (gan gynnwys os oes eitemau wedi'u harchebu), ni fydd yn cael ei ystyried yn gymwys i gael cymorth ariannol.
Amserlenni o'r dechrau i'r diwedd
Pan fyddwn wedi cael eich ffurflen, byddwn yn asesu eich cynnig.
Os caiff eich cynnig ei gymeradwyo, byddwn yn eich gwahodd i gyflwyno 'Cynnig Datblygedig', ond nid yw hynny'n gwarantu y byddwch yn cael dyfarniad grant.
Os bydd eich 'Cynnig Hyfywedd' yn aflwyddiannus, byddwn yn dweud wrthych pam.
Gallwch fyfyrio ynghylch ein hadborth a cheisio gwella eich cynnig, ond bydd yn rhaid i chi aros tan yr Alwad Agored nesaf cyn ailgyflwyno unrhyw beth.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am unrhyw agwedd ar y broses, mae croeso i chi gysylltu â Thîm Rheoli'r Gronfa drwy ebost yma tyfucanolbarthcymru@ceredigion.llyw.cymru