3. Ffurflenni
3.1 Ffurflen Asesiad Strategol
Caiff sefydliadau eu gwahodd i lawrlwytho a llenwi Ffurflen yr Asesiad Strategol, sef cam ffurfiol cyntaf y broses gwneud cais, er mwyn iddi gael ei hystyried dan Fargen Twf Canolbarth Cymru.
- Ffurflen yr Asesiad Strategol.
Er nad ydynt yn orfodol yn ystod y cam hwn, caiff y dogfennau ategol canlynol eu hargymell. Bydd defnyddio'r templedi hyn yn helpu i sicrhau bod eich cyflwyniad yn cyd-fynd â disgwyliadau a safonau Bargen Twf Canolbarth Cymru.
- Cynllun Cyflawni Prosiect - Canllaw.
- Cofrestr Risiau, Rhagdybiaethau, Problemau a Dibyniaethau - Templed.
Gallwch hefyd ddarparu rhestr o ddogfennau ychwanegol sydd ar gael o ofyn amdanynt, ynghyd ag esboniad byr o'u perthnasedd. Fodd bynnag, peidiwch â chyflwyno dogfennau nad ydynt wedi'u rhestru uchod, oherwydd ni fyddant yn cael eu hystyried yn ystod yr asesiad cychwynnol.
