Toggle menu

Ymgynghoriad ar Gynllun Drafft Trafnidiaeth Rhanbarthol Canolbarth Cymru

Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 4 Ebrill 2025.

Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 4 Ebrill 2025.

Gallwch ddarllen adroddiad yr ymgynghoriad drwy glicio ar y ddolen hon.

Yr Ymgynghoriad Gwreiddiol

Mae Tyfu Canolbarth Cymru, sydd hefyd yn gweithredu fel Cyd-bwyllgor Corfforedig y rhanbarth, yn gyfrifol am gynllunio trafnidiaeth ranbarthol, cynllunio defnydd tir strategol, a hyrwyddo lles economaidd.

Mae trafnidiaeth yn chwarae rhan hanfodol yn ein bywydau bob dydd, gan lunio'r ffordd rydym yn cael mynediad at waith, addysg, gofal iechyd, a hamdden.

Mewn cydnabyddiaeth o'i bwysigrwydd, mae'r Cyd-bwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru yn datblygu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh) i nodi sut y byddant yn cyfrannu at gyflawni Strategaeth Drafnidiaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru ac yn trawsnewid trafnidiaeth yn y rhanbarth.

Mae'r drafft CTRh yn nodi gweledigaeth uchelgeisiol i greu system drafnidiaeth gynaliadwy, carbon isel ac effeithlon. Bydd yn canolbwyntio ar wella cysylltedd o fewn a'r tu hwnt i Ganolbarth Cymru wrth fynd i'r afael â heriau sy'n unigryw i'n tirlun gwledig.

Mae nodau allweddol y CTRh yn cynnwys:

  • Cynyddu mynediad at ddulliau trafnidiaeth cynaliadwy fel beicio, cerdded, a trafnidiaeth cyhoeddus.
  • Gwella cysylltiadau trafnidiaeth i hybu twf economaidd a thwristiaeth.
  • Cefnogi ymdrechion i leihau yr effeithiau amgylcheddol gan drafnidiaeth

Gwelwch y Drafft Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Canolbarth Cymru (Drafft) (PDF, 2 MB)

Mae crynodeb o'r cynllun hefyd ar gael: Dogfen Cryno Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Canolbarth Cymru (PDF, 435 KB)

Teclyn Asesu Effaith Integredig CTRh: Teclyn Asesu Effaith Integredig CTRh (PDF, 541 KB)

Mae'r atodiadau a'r Asesiad Effaith Integredig ar gael yn Saesneg ar hyn o bryd. Bydd copïau Cymraeg ar gael gyda'r Cynllun Terfynol.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu