Gallwch weld y newyddion diweddaraf am Dyfu Canolbarth Cymru, datblygiadau am weithgarwch a sefydliadau yr ydym yn eu cefnogi trwy ddilyn ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol: X (Yn flaenorol yn cael ei alw'n Twitter) https://twitter.com/growingmidwales LinkedIn: www.linkedin.com/company/growing-mid-wales
Mae Tyfu Canolbarth Cymru yn archwilio potensial hydrogen ar gyfer y rhanbarth
10.03.2022 - Mae astudiaeth ddichonoldeb arloesol wedi bod yn archwilio potensial hydrogen yn y dyfodol ar gyfer Canolbarth Cymru.
Bargen Twf Canolbarth Cymru Yn Cyrraedd Carreg Filltir Bwysig
13.01.2022 - Heddiw, llofnodwyd y Cytundeb Terfynol ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol y rhanbarth, sef Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Powys.
Angen Arbenigwyr Busnes
15.11.2021 - Mae angen arweinwyr busnes ac arbenigwyr economaidd i gynghori Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru ynghylch prosiectau posib o dan Fargen Twf y rhanbarth.
Canolfan Creuddyn yn agor ei drysau i fusnesau lleol
05.11.2021 - Mae canolfan fusnes newydd yn Llanbedr Pont Steffan wedi cael ei hagor yn swyddogol at ddefnydd y gymuned a busnesau yr wythnos hon.
Arweinwyr Cynghorau'n Cyfarfod  Llywodraeth Y DU A Llywodraeth Cymru I Gyrraedd Y Cam Nesaf Ar Gyfer Bargen Twf Tyfu Canolbarth Cymru
13.10.2021 - Cyfarfu Arweinwyr Cyngor Sir Powys a Chyngor Sir Ceredigion, yn eu rolau fel cyd-gadeiryddion Cyd-bwyllgor Tyfu Canolbarth Cymru, â'r Aelod Seneddol David TC Davies, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Llywodraeth y DU yng Nghymru, a Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi, i drafod Bargen Twf Canolbarth Cymru a chyflawni'r cam nesaf pwysig.
Diolch cyhoeddus i grŵp strategaeth
23.09.2021 - Mae Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru wedi diolch i gynrychiolwyr o'r sector preifat am eu cyfraniad tuag at ddatblygu cais Bargen Twf Canolbarth Cymru, a fydd yn gweld £110miliwn yn cael ei fuddsoddi yn y rhanbarth gan Lywodraethau Cymru a Llywodraeth DU.
Portffolio Bargen Twf Canolbarth Cymru Yn Cyrraedd Carreg Filltir Allweddol
21.09.2021 - Mae Bargen Twf Canolbarth Cymru wedi mynd heibio carreg filltir bwysig ar ôl derbyn cymeradwyaeth i gyflwyno Achos Busnes drafft y Portffolio i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
Bargen Twf Canolbarth Cymru'n Cyrraedd Y Camau Datblygu Olaf
16.09.2021 - Bydd Bargen Twf Canolbarth Cymru'n wynebu penderfyniad dyrys ar ddiwedd y mis pan fydd angen cymeradwyaeth i gyflwyno'r Achos Busnes Portffolio drafft i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
Gosod y sylfeini ar gyfer Bargen Dwf Canolbarth Cymru
11.03.2021 - Mae dogfennau allweddol sydd yn gosod y sylfeini ar gyfer datblygiad pellach a gweithrediad Bargen Dwf Canolbarth Cymru wedi eu cefnogi gan Fwrdd Tyfu Canolbarth Cymru.
Croesawu Cyhoeddiad Gan Lywodraeth Y DU Am Gyllid Ar Gyfer Y Fargen Dwf
05.03.2021 - Mae arweinwyr y rhanbarth wedi croesawu'r newyddion y bydd Llywodraeth y DU yn cyflymu ei chyllid ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru.
Creu Partneriaeth Sgiliau Canolbarth Cymru
04.03.2021 - Crewyd partneriaeth newydd a fydd yn canolbwyntio ar sgiliau yng Nghanolbarth Cymru, yn ogystal â helpu i yrru twf economaidd trwy sicrhau bod y rhaglenni datblygu sgiliau iawn ar waith.
Bargen Twf Canolbarth Cymru gwerth £110m yn cyrraedd carreg filltir allweddol
22.12.2020 - Cyrhaeddodd Bargen Twf Canolbarth Cymru garreg filltir bwysig ddoe [dydd Mawrth, 22 Rhagfyr] wrth i Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol y rhanbarth lofnodi Penawdau'r Telerau