Toggle menu

Ynni a Sero Net

Yn 2020, cyhoeddodd Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Powys argyfyngau hinsawdd. Mae gan Tyfu Canolbarth Cymru rôl allweddol i'w chwarae wrth ddod â rhanddeiliaid ynghyd ar draws y rhanbarth i hwyluso'r cyfnod pontio hwn, yn ogystal â chefnogi'r Awdurdodau Lleol sy'n cael eu harwain drwy esiampl.

Beth yw'r weledigaeth?

I sicrhau system ynni di-garbon net sy'n darparu buddion cymdeithasol ac economaidd, yn dileu tlodi tanwydd, yn cysylltu'r Canolbarth â gweddill y DU yn well, ac yn cyfrannu at ddatgarboneiddio'r DU yn ehangach.

Net Zero generic imagery

Pa waith sydd ar y gweill?

Yn 2020, cyhoeddwyd Strategaeth Ynni Canolbarth Cymru. Ers hynny, mae gwaith wedi dechrau i nodi camau gweithredu strategol a thasgau i benderfynu beth sydd angen digwydd, ar lawr gwlad, gan bwy i ddatgarboneiddio'r system ynni.

Mae'r strategaeth yn nodi chwe blaenoriaeth allweddol:

1. Gyrru ymlaen datgarboneiddio stoc tai ac adeiladau'r rhanbarth

2. Gweithio'n rhagweithiol i sicrhau bod gridiau trydan a nwy yn y rhanbarth yn addas ar gyfer dyfodol 100% datgarboneiddio

3. Hybu'r defnydd o ynni adnewyddadwy trwy gynhyrchu a storio newydd

4. Cyflymu'r newid i gludiant di-garbon a gwella cysylltedd

5. Datblygu a harneisio potensial amaethyddiaeth i gyfrannu at nodau di-garbon

6. Harnesio arloesedd i gefnogi datgarboneiddio a thwf glân

Icons from Mid Wales Energy Strategy

Ar hyn o bryd, mae'r ddau gyngor yn datblygu Cynlluniau Ynni Ardal Leol a fydd yn gwthio'r gwaith hwn yn ei flaen ymhellach.

Beth yw Cynllun Ynni Ardal Leol?

Mae Cynllunio Ynni Ardal Leol yn ddull sy'n cael ei yrru gan ddata sy'n ceisio gwella ein dealltwriaeth o sut mae ardal leol yn debygol o ddatgarboneiddio ei sector ynni. Mae modelu Cynllunio Ynni Ardal Leol yn cynnwys popeth o gyflenwad ynni a'r galw i drafnidiaeth, adeiladau a diwydiant. Mae'r cynlluniau lleol yn cael eu cynllunio ar hyn o bryd mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid o bob rhan o Ganolbarth Cymru.

Bydd allbynnau'r Cynlluniau Ynni Ardal Leol yn gynllun gofodol a fydd yn nodi: beth yw'r atebion, lle y dylid eu defnyddio, faint y byddant yn ei gostio, pryd y dylid eu dilyn a chan bwy.  

Mae'r atebion yn debygol o fod yn gyfuniad o: 

  • Buddsoddiad seilwaith grid
  • Technolegau carbon isel (e.e. cynhyrchu trydan adnewyddadwy, pympiau gwres, cerbydau trydan)
  • Datrysiadau sy'n lleihau'r galw am ynni (e.e. mesurau effeithlonrwydd ynni, teithio llesol

Pam mae'r Cynlluniau Ynni Ardal Leol yn bwysig?

  • Er bod camau'n cael eu cymryd i drosglwyddo i allyriadau sero-net yng Nghanolbarth Cymru (e.e.  datgarboneiddio adeiladau cyhoeddus, cyflwyno pwyntiau gwefru cerbydau trydan), mae angen i gyflymder y newid gynyddu'n sylweddol.
  • Bydd Cynlluniau Ynni Ardal Leol yn helpu i nodi lle gall rhanddeiliaid yng Nghanolbarth Cymru ddod ynghyd i weithio tuag at drosglwyddo i system ynni carbon isel, teg a chyfartal lle gellir creu a chynnal buddionyn ein rhanbarth. Bydd y gwaith hwn yn ategu gwaith ynni rhanbarthol ehangach sydd ar y gweill sydd, yn rhannol, yn llywio polisi ynni Llywodraeth Cymru.
  • Mae Llywodraethu Cymru wedi ymrwymo i raglen fawr o gyflwyno Cynlluniau Ynni Ardal Leol, fel y bydd gan bob rhan o Gymru gynllun. Gwyliwch y fideo canlynol gan Lywodraeth Cymru sydd yn esbonio Cynlluniau Ynni Ardal Leol yng Nghymru: https://youtu.be/kUGUMZzrfI4

Bydd pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cyhoeddi eu Cynlluniau Ynni Ardal Leol erbyn mis Mawrth 2024, yna bydd y rhain yn cael eu graddio i greu Cynllun Ynni Cenedlaethol i Gymru, gan fapio'r galw am ynni a'r cyflenwad yn y dyfodol ar gyfer pob rhan o Gymru.

Delwedd: © 2023 Energy Systems Catapult.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu