Toggle menu

Newyddion a Digwyddiadau

Gallwch weld y newyddion diweddaraf am Dyfu Canolbarth Cymru, datblygiadau am weithgarwch a sefydliadau yr ydym yn eu cefnogi trwy ddilyn ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol: X (Yn flaenorol yn cael ei alw'n Twitter) https://twitter.com/growingmidwales LinkedIn: www.linkedin.com/company/growing-mid-wales

Busnesau Canolbarth Cymru - dywedwch wrthym beth sydd ei angen arnoch chi ar gyfer y dyfodol i ddiwallu nodau eich busnes

06.03.2023 - Bydd Tyfu - Diffinio - Cyflawni Gyda'n Gilydd, sef digwyddiad ymgysylltu a gynhelir gan Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru, yn cael ei gynnal ar fore 23 Mawrth er mwyn rhoi cyfle i chi, busnesau Canolbarth Cymru, ddod at eich gilydd a dweud beth sydd ei angen arnoch ar gyfer y dyfodol i gyflawni nodau eich busnes.

Bwrw Ymlaen  Rhaglen Eiddo A Safleoedd Y Fargen Dwf Canolbarth Cymru

25.01.2023 - Yn dilyn clustnodi mewn darn cychwynnol o waith yr angen i ddatblygu safleoedd gwaith ychwanegol ar draws y rhanbarth, cwblhawyd gwaith pellach er mwyn cwmpasu Rhaglen Eiddo a Safleoedd arfaethedig i'r Fargen Dwf.

Cymeradwyo Cynllun Canolbarth Cymru Ar Gyfer Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

13.12.2022 - Yn dilyn cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU ynglŷn â Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF), mae'r cynllun buddsoddi rhanbarthol ar gyfer Canolbarth Cymru wedi cael cymeradwyaeth ffurfiol.

Cadeirydd Newydd Ar Gyfer Bwrdd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru

19.08.2022 - Yr hydref hwn yng nghyfarfod blynyddol Bwrdd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru, cyhoeddwyd mai Emma Thomas yw Cadeirydd newydd y Bwrdd.

Angen Arweinwyr Busnes I Sbarduno Sgiliau Rhanbarthol

19.08.2022 - Mae Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru (RSP) yn chwilio am arweinwyr busnes ac arbenigwyr economaidd i fynegi diddordeb i ddod yn gadeirydd bwrdd yr RSP. Cynhelir Cyfarfod Blynyddol yr RSP ar ddydd Llun 12 Medi, pan ddisgwylir cyhoeddi enw'r Cadeirydd newydd.

Parhau I Gydweithio

28.08.2022 - Mae Arweinwyr newydd Cynghorau Sir Powys a Cheredigion wedi cadarnhau eu hymroddiad i gydweithio i gyflawni dwy raglen waith sylweddol.

Arolwg Cyflogaeth a Sgiliau Canolbarth Cymru

28.08.2022 - Mae busnesau a sefydliadau dros Canolbarth Cymru yn cael eu hannog i lenwi arolwg ar gyflogaeth a sgiliau.

Mae Tyfu Canolbarth Cymru yn archwilio potensial hydrogen ar gyfer y rhanbarth

10.03.2022 - Mae astudiaeth ddichonoldeb arloesol wedi bod yn archwilio potensial hydrogen yn y dyfodol ar gyfer Canolbarth Cymru.

Bargen Twf Canolbarth Cymru Yn Cyrraedd Carreg Filltir Bwysig

13.01.2022 - Heddiw, llofnodwyd y Cytundeb Terfynol ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol y rhanbarth, sef Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Powys.

Angen Arbenigwyr Busnes

15.11.2021 - Mae angen arweinwyr busnes ac arbenigwyr economaidd i gynghori Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru ynghylch prosiectau posib o dan Fargen Twf y rhanbarth.

Canolfan Creuddyn yn agor ei drysau i fusnesau lleol

05.11.2021 - Mae canolfan fusnes newydd yn Llanbedr Pont Steffan wedi cael ei hagor yn swyddogol at ddefnydd y gymuned a busnesau yr wythnos hon.

Arweinwyr Cynghorau'n Cyfarfod  Llywodraeth Y DU A Llywodraeth Cymru I Gyrraedd Y Cam Nesaf Ar Gyfer Bargen Twf Tyfu Canolbarth Cymru

13.10.2021 - Cyfarfu Arweinwyr Cyngor Sir Powys a Chyngor Sir Ceredigion, yn eu rolau fel cyd-gadeiryddion Cyd-bwyllgor Tyfu Canolbarth Cymru, â'r Aelod Seneddol David TC Davies, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Llywodraeth y DU yng Nghymru, a Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi, i drafod Bargen Twf Canolbarth Cymru a chyflawni'r cam nesaf pwysig.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu