Toggle menu

Uwchraddio Signal Ffonau Symudol yng Nghanolbarth Cymru

08.04.2024 Aeth y cyntaf o 86 mast 4G sydd wedi ei gynllunio yng Nghymru, yn fyw ym mis Mawrth, gyda'r mastiau cyntaf yn cael eu lleoli ar draws Ceredigion a Phowys. Mae disgwyl i ragor o fastiau gael eu troi ymlaen yn y misoedd nesaf.

Bydd y mastiau cychwynnol hyn yn gwella signal a chapasiti'r rhwydweithiau symudol presennol a bydd manteision i drigolion, twristiaid a pherchnogion busnes mewn ardaloedd fel Pont-rhyd-y-groes, Ysbyty Ystwyth, Llanafan, Tynygraig, West Fedw a Thrawsgoed.1

Daw'r gwaith fel rhan o'r  rhaglen Rhwydwaith Gwledig a Rennir, cynllun gwerth £1 biliwn dan arweiniad llywodraeth y Deyrnas Unedig a chwmnïau telathrebu. Mae Awdurdodau Lleol; Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Powys, a Thyfu Canolbarth Cymru wedi darparu eu cefnogaeth iddo, er mwyn ceisio cau'r rhaniad digidol a sbarduno twf economaidd mewn ardaloedd gwledig yn y Deyrnas Unedig trwy hybu cysylltedd symudol. 2

Gwnaed y gwelliannau cychwynnol hyn trwy uwchraddio'r seilwaith rhwydwaith presennol, gan osgoi'r effaith weledol sy'n gysylltiedig weithiau ag adeiladu mastiau newydd. Er y gallai datblygiadau yn y dyfodol ganolbwyntio ar sicrhau cwmpas mwy eang i'r signal gyda'r angen posibl am fastiau newydd, y pwyslais presennol yw gwella'r rhwydwaith presennol.

Yn dilyn yr uwchraddio diweddar, mae llawer o drigolion, busnesau a thwristiaid yn yr ardaloedd y soniwyd amdanynt bellach wedi gweld mwy o ddewis o ran darparwyr rhwydwaith addas gan y byddant yn gallu cyrchu signal 4G gan bob un o'r pedwar prif  rwydwaith symudol - EE, VMO2, Three, a Vodafone. Yn ogystal, mae'r opsiynau'n ymestyn i wahanol Weithredwyr Rhwydwaith Rhithwir (MVNOs), sy'n darparu gwasanaethau gan ddefnyddio rhwydweithiau'r gweithredwyr hyn. Mae'r gwelliannau hyn mewn seilwaith rhwydwaith yn ehangu'r opsiynau cysylltedd ar draws y rhanbarth ac i'r rhai sy'n profi band eang gwael mae hefyd yn gyfle i ddefnyddio datrysiadau band eang 4G.

Yn ogystal â'r ardaloedd uchod, mae dau fast 4G pellach yn cael eu troi ymlaen yn ystod y misoedd nesaf ym mhentrefi Esgair Maen a Bronfelin wrth i raglen y Rhwydwaith Gwledig a Rennir gynyddu.3

Mae troi'r mastiau ymlaen yng Nghymru yn garreg filltir arall yn y cytundeb gwerth £1 biliwn ar y cyd rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r diwydiant, a disgwylir i'r ddarpariaeth symudol gan o leiaf un darparwr yng Nghanolbarth Cymru gynyddu o 86% i 97% a darpariaeth yr holl weithredwyr ffonau symudol gynyddu o 51% i 78%.4

Bydd Tyfu Canolbarth Cymru yn parhau i gefnogi'r rhaglen lle bynnag y bo modd. Mae'r prosiectau sy'n symud ymlaen drwy Raglen Ddigidol Bargen Twf Canolbarth Cymru  wedi'u cynllunio i ategu ymdrechion y Rhwydwaith Gwledig a Rennir, gan wella effaith gyffredinol y gwaith sy'n cael ei wneud.


 

[1] UK government's 4G rollout signals end of mobile blackspots in rural Wales - GOV.UK (www.gov.uk)

[2] UK government's 4G rollout signals end of mobile blackspots in rural Wales - GOV.UK (www.gov.uk)

[3] Forecast coverage improvements - Shared Rural Network (srn.org.uk)

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu