Toggle menu

Hygyrchedd

Datganiad hygyrchedd gwefan Tyfu Canolbarth Cymru

Mae'r datganiad hwn ynghylch hygyrchedd yn berthnasol i https://www.tyfucanolbarth.cymru/, sef y wefan sy'n ymwneud â rhanbarth economaidd Tyfu Canolbarth Cymru (Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Powys). Rydym am sicrhau bod cymaint o bobl ag sy'n bosibl yn gallu defnyddio'r wefan hon. Mae hynny'n golygu y dylech, er enghraifft, fod yn gallu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • chwyddo maint y testun i 300% heb fod y testun yn mynd o'r golwg ar y sgrin
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver).

Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor hawdd i'w ddeall ag sy'n bosibl.

Wrth ddylunio'r wefan hon, rydym wedi cynnwys nodweddion sy'n ei gwneud yn haws iddi gael ei defnyddio gan bawb, gan gynnwys pobl sydd ag anableddau o ran eu gallu i weld neu glywed, pobl sydd ag anableddau corfforol, gwybyddol neu niwrolegol neu bobl sydd ag anableddau o ran eu lleferydd. Ein nod yw cyrraedd lefel AA fersiwn 2.1 y Canllawiau ynghylch Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau. Dyma'r safon ryngwladol ar gyfer gwefannau a chynnwys hygyrch.

Ar y dudalen hon:

Defnyddio ReachDeck i wrando ar y wefan hon

Adborth a manylion cyswllt

Gweithdrefn orfodi

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Cynnwys nad yw'r rheoliadau hygyrchedd yn berthnasol iddo

Sut y gwnaethom brofi'r wefan hon

Beth yr ydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Y cynllun ar gyfer hygyrchedd

Dolenni cyswllt

Defnyddio ReachDeck i wrando ar y wefan hon

Gallwch ddefnyddio wijet ReachDeck ar y wefan hon i wrando ar gynnwys y wefan yn cael ei ddarllen yn uchel i chi.

Dilynwch y camau hyn:

  • I ddechrau defnyddio ReachDeck, cliciwch ar logo wijet ReachDeck sydd ar waelod cornel chwith eich sgrin.
  • Bydd bar offer yn agor ar y dudalen, sy'n dangos gwahanol opsiynau.
  • Gallwch symud y bar llywio drwy ddewis y saethau a llusgo'r bar i'r man lle byddech yn hoffi iddo fod. Gallwch ddefnyddio ReachDeck i:
  • Gael cyfleuster testun i leferydd
  • Cyfieithu ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • Chwyddo testun
  • Creu ffeiliau MP3
  • Masgio'r sgrin
  • Symleiddio tudalennau gwe
  • Cael opsiynau y gellir eu teilwra

I gael rhagor o help a chymorth ynglŷn â sut mae defnyddio ReachDeck, cliciwch ar y marc cwestiwn ar offer ReachDeck.

At hynny, ceir nifer o opsiynau teilwra ar gyfer eich porwr a'ch dyfais, a allai eich helpu i ddefnyddio'r wefan hon a gwefannau eraill yn fwy effeithiol.

Mae gan AbilityNet gyngor ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.

Adborth a manylion cyswllt

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon.

Os oes gennych unrhyw ymholiad ynghylch hygyrchedd, gan gynnwys:

  • os byddwch yn cael trafferth cael gafael ar wybodaeth neu ddefnyddio'r wefan
  • os byddwch yn dod ar draws problem hygyrchedd nad yw wedi'i rhestru yn y datganiad hwn
  • os bydd gennych adborth cadarnhaol ynghylch y camau a gymerwyd i ystyried hygyrchedd

cysylltwch â: tyfucanolbarthcymru@ceredigion.llyw.cymru

Fformatau amgen

Os oes arnoch angen y wybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat gwahanol, er enghraifft ar ffurf dogfen PDF hygyrch, dogfen mewn print bras, fersiwn hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu mewn Braille:

  • anfonwch ebost i: tyfucanolbarthcymru@ceredigion.llyw.cymru

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu'n ôl â chi cyn gynted ag y gallwn.

Gweithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy'n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os byddwch yn anfodlon â'r modd yr ydym wedi ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Tyfu Canolbarth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA fersiwn 2.1 y Canllawiau ynghylch Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau o ganlyniad i'r achosion o fethu â chydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys anhygyrch

  • Nid oes unrhyw ffordd o hepgor y cynnwys a ailadroddir ym mhennyn y dudalen (er enghraifft, cael opsiwn 'neidio i'r prif gynnwys').
  • Nid yw bob amser yn bosibl newid gogwydd y ddyfais o fod yn llorweddol i fod yn fertigol heb ei gwneud yn fwy anodd gweld y cynnwys.
  • Nid yw'n bosibl i ddefnyddwyr newid maint y testun heb fod rhywfaint o'r cynnwys yn gorgyffwrdd.

Cynnwys nad yw'r rheoliadau hygyrchedd yn berthnasol iddo

Dogfennau PDF a dogfennau eraill

Nid yw'r rhan fwyaf o'n dogfennau PDF a Word hŷn yn bodloni safonau hygyrchedd - er enghraifft, mae'n bosibl nad ydynt wedi'u strwythuro fel eu bod yn hygyrch i ddarllenydd sgrin. Nid yw hynny'n bodloni maen prawf llwyddiant 4.1.2 fersiwn 2.1 y Canllawiau ynghylch Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau (enw, rôl, gwerth).

Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn mynnu ein bod yn trwsio dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, nid ydym yn bwriadu trwsio hen lythyrau newyddion, posteri neu ddeunyddiau ymgyrchu sy'n ddogfennau PDF, sydd wedi'u cyhoeddi ac ar gael o hyd drwy ein gwefan.

Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.

Nid yw llawer o'n dogfennau polisi wedi'u hysgrifennu mewn Saesneg/Cymraeg clir. Mae'r mathau hyn o ddogfennau yn esempt rhag y rheoliadau oherwydd nad ydynt 'yn ofynnol ar gyfer prosesau gweinyddol gweithredol sy'n ymwneud â'r tasgau a gyflawnir'. Felly, nid ydym ar hyn o bryd yn bwriadu gwneud y dogfennau'n hygyrch.

Lluniau fideo byw

Nid oes gan ffrydiau fideo byw gapsiynau. Nid yw hynny'n bodloni maen prawf llwyddiant 1.2.4 fersiwn 2.1 y Canllawiau ynghylch Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau (capsiynau - byw).

Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau fideo byw oherwydd bod lluniau fideo byw yn esempt rhag gorfod bodloni'r rheoliadau hygyrchedd.

Sut y gwnaethom brofi'r wefan hon

Cafodd profion eu cynnal gan berson, sef ein Swyddog Cyfathrebu, a'u cynnal hefyd gan ddefnyddio meddalwedd profi wedi'i awtomeiddio, ar draws y wefan gyfan, gan Silktide: https://silktide.com/solutions/accessibility/

Gwnaethom brofi:

  • Prif blatfform ein gwefan (Saesneg), sydd ar gael yma: https://www.growingmid.wales/

Gwnaethom brofi pob un o'r tudalennau gwe Saesneg a'r dogfennau PDF Saesneg. Yna, gwnaethom gyflwyno'r un camau trwsio i'r tudalennau gwe ac i'r dogfennau Saesneg a Chymraeg fel yr oedd angen.

Beth yr ydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym yn gwneud ein gorau glas i geisio datrys y problemau a nodwyd uchod. Rydym yn monitro'n barhaus y graddau y mae ein gwefan yn cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd, ac mae gwella ein gwefan yn rhan o waith y Swyddog Cyfathrebu.

  • Mae aelodau priodol o staff yn cael hyfforddiant ynghylch hygyrchedd ac yn gweithio gyda'n meysydd gwasanaeth i godi ymwybyddiaeth o'r angen i fodloni'r rheoliadau hygyrchedd.
  • Mae gennym fesurau rheoli ar waith i sicrhau bod unrhyw gynnwys newydd a gyhoeddir ar y wefan yn cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd.
  • Rydym yn cynnal gwiriad hygyrchedd wedi'i awtomeiddio, ar draws y wefan gyfan, bob mis ac yn gweithio gyda staff meysydd gwasanaeth i ddatrys unrhyw broblemau.

Y cynllun ar gyfer hygyrchedd

1 Medi 2023 - Roeddem yn bwriadu sicrhau bod pob un o'n dogfennau PDF Saesneg a Chymraeg, a gyhoeddwyd ar ôl 23 Medi 2018 ac nad oedd asesiad Baich Anghymesur nac esemptiadau'n berthnasol iddynt, yn bodloni'r rheoliadau hygyrchedd os oedd ein harchwiliad o hygyrchedd y wefan yn dangos ar y pryd eu bod yn broblem.

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 30 Medi 2020 a'i ddiweddaru ddiwethaf ar 01 Gorffennaf 2023.

Os oes gennych unrhyw syniadau neu awgrymiadau i helpu i wella'r wefan, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Dolenni cyswllt

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu