Toggle menu

Galwad i brosiectau yng Nghanolbarth Cymru i ddod gerbron ar gyfer cyllid y rhaglen Lluosi

20.09.2023 - O ddydd Llun Hydref 2ail, bydd prosiectau sy'n gweithredu mewn ardaloedd Llywodraeth Leol yng Ngheredigion a Phowys yn medru ymgeisio am gyllid o'r rhaglen Lluosi. Mae gan Ganolbarth Cymru gyllid o £5 miliwn ar gyfer prosiectau Lluosi hyd at fis Rhagfyr 2024.

Mae'r rhaglen, sy'n rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn ceisio denu prosiectau sydd a'r bwriad o wella sgiliau rhifedd gweithredol trwy diwtor personol am ddim, hyfforddiant digidol a chyrsiau hyblyg.

Mae grwpiau sy'n ystyried defnyddio'r gronfa yn medru mynychu gweminar ar Hydref 2ail rhwng 2-3yp i wybod mwy am y camau sydd angen eu cymryd i ymgeisio.

Dyma rai esiamplau o'r prosiectau Lluosi sy'n cael eu rhedeg ar draws y DU ar hyn o bryd:

  • Cwrs coginio rhad lle mae sgiliau rhifedd megis pwysau a mesuriadau, tymheredd, amser a rheolaeth ariannol yn cael eu cyffwrdd.
  • Sesiynau gwybodaeth mewn ysgolion ar gyfer rhieni sy'n sy'n dymuno datblygu eu hyder mewn rhifedd er mwyn helpu eu plant gyda'u gwaith cartref
  • Cyrsiau sy'n darparu ac yn cynnwys cymhwyster mathemateg hyd at Lefel 2
  • Gweithgareddau arloesol fel bingo brecwast a thotiau rhif
  • Hyfforddiant i ddefnyddio technoleg ac apiau i helpu i reoli biliau cartrefi a chyllido.
  • Cyrsiau mewn trin arian parod a chydbwyso til; galluogi pobl i wneud cais am rolau sydd angen y sgiliau hyn.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ddydd Sul, 29 Hydref 2023.

I fynychu gweminar Galwad Agored Lluosi, cofrestrwch eich diddordeb trwy'r ddolen ganlynol: bit.ly/GweminarLluosi

Sylwch fod ardaloedd Awdurdod Lleol Ceredigion a Phowys yn derbyn dyraniadau unigol ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Os ydych yn bwriadu cyflwyno cais rhanbarthol, cysylltwch â'r ddau awdurdod i drafod ymhellach. Am fwy o wybodaeth e-bostiwch: Ceredigionukspf@ceredigion.gov.uk / Powys ukspf@powys.gov.uk

I wneud cais am y gronfa ac am fwy o wybodaeth am y galwadau cyllido, gan gynnwys y manylion pwysig y dylai sefydliadau feddwl amdanynt cyn gwneud cais, ewch i dudalen Cronfa Ffyniant Gyffredin Canolbarth Cymru ar wefan Tyfu Canolbarth Cymru: https://growingwelsh.powys1-prd.gosshosted.com/UKSPFCanolbarthCymru

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu