Toggle menu

Archwilio cyfleoedd ar gyfer chwyldro digidol yng Nghanolbarth Cymru

13.03.24 Mae band eang Gigabit yn dechnoleg newydd sydd â buddion i deuluoedd a busnesau. Gall y prosiectau presennol sy'n cael eu ariannu trwy grant gynorthwyo Canolbarth Cymru i wella eu seilwaith cysylltedd yn sylweddol, ond gall fod yn gymhleth wrth archwilio'r opsiynau sydd ar gael.

Rydym am egluro'r wybodaeth honno fel y gallwch chi, fel trigolion a busnesau ar draws Ceredigion a Phowys wneud penderfyniad gwybodus a fydd yn atebol i'ch anghenion chi.

Mae Canolbarth Cymru y tu ôl o ran mynediad at y wê o'i gymharu â gweddill y DU. Nid yn unig y mae'r bwlch digidol hwn yn effeithio ar ein bywydau o ddydd i ddydd, ond hefyd yn atal ein datblygiad economaidd ac addysgiadol.

Mae band eang Gigabit yn dynodi trawsnewidiad mewn cysylltedd, a gall gynnig cyflymder o hyd at 1000 Mbps. Bydd hyn yn golygu cyflymder lawrlwytho cynt i gartrefi a chyswllt mwy dibynadwy ar gyfer gweithio o adref, a rhoi stop ar amseroedd lawrlwytho hir. Ar gyfer busnesau, bydd yn ehangu'r gystadleuaeth rhwng busnesau, gwneud gweithrediadau'n fwy effeithlon ac yn galluogi busnesu i fod yn arloesol.

Openreach yw'r unig ddarparwr band eang sydd ar hyn o bryd yn ymwneud â phrojectau band eang cymunedol ar draws Ceredigion a Phowys. Maent yn buddsoddi yn y seilwaith er mwyn galluogi cyflwyno'r dechnoleg hon, ond mae angen iddynt wybod fod galw pendant am y dechnoleg hon o fewn y meysydd hyn cyn y gallant ymrwymo i fuddsoddi a chyflenwi Gigabit.

Er mwyn gweld os oes diddordeb yn y prosiectau hyn, mae angen i drigolion a busnesau rhag-gofrestru eu diddordeb trwy ddefnydd talebau am ddim. Mae rhag-gofrestru yn gwneud mwy na dangos y diddordeb; mae'n offeryn pwerus a fydd yn dylanwadu ar ddyraniad adnoddau a blaenoriaethu cyflwyno cynlluniau band eang i Ganolbarth Cymru.

Mae Openreach ar hyn o bryd yn chwilio am unrhyw ddiddordeb wrth drigolion yng nghymunedau Aberriw, Llanwrtyd, Maesyfed, Llyswen a Llanrhaeadr ym Mhowys ynghyd â Rhydlewis a Tregaron yng Ngheredigion i gymryd mantais o'r uwchraddio gwibgyswllt hwn.

Mae Openreach yn 'westeiwr niwtral'. Golyga hyn eu bod yn adeiladu'r seilwaith ar gyfer y band eang Giigabit a fydd yn galluogi unrhyw weithredwr rhwydwaith o fewn y DU i gael mynediad a'i redeg e.e. eich darparwr rhyngrwyd presennol.

I weld yr amryw o opsiynau ac i rag-gofrestru eich diddordeb ac i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am fentrau cymunedol o fewn ardal dalgylch benodol, ewch i: www.openreach.com/connect-my-community.

Dwedodd y Cynghorydd Clive Davies, Hyrwyddwr Digidol ac Aelod o'r Cabinet dros yr Economi ac Adfywio gyda chyfrifoldeb dros Tyfu Canolbarth Cymru, Cyngor Sir Ceredigion ac y Cynghorydd Jake Berriman, Aelod o'r Cabinet dros Cysylltu Powys, Cyngor Sir Powys: "Nid yw'r daith at fand eang gwell yng Nghanolbarth Cymru yn unig er mwyn cael rhyngrwyd cynt. Mae er mwyn cysylltu cymunedau, grymuso busnesau ac agor byd o gyfleoedd. Mae'n glir nad moethusrwydd yw band eang Gigabit, ond yn hytrach rheidrwydd hanfodol ar gyfer paratoi seilwaith ddigidol Ceredigion a Phowys at y dyfodol. Rydym yn annog ein trigolion sy'n byw yn y mannau uwchraddio a nodir i ddatgan eu ddiddordeb. Mae eich cyfranogiad yn allweddol i ddod â'r newid angenrheidiol hwn i'n sir."

I'r trigolion hynny sy'n edrych i ehangu eu cysylltedd band eang ond yn methu darganfod tystiolaeth o uwchraddio yn eu hardaloedd, mae cynllun grant ABC Llywodraeth Cymru (Allwedd Band Eang Cymru)yn cynnig datrysiadau posibl. Mae'r cynllun hwn yn targedu trigolion sydd â chysylltedd band eang gwael ac yn cynnig cyllid yn Uniongyrchol at drigolion cymwys er mwyn eu cefnogi i osod seilwaith band eang gwell.

Gall y cyllid hwn dalu'r costau sy'n gysylltiedig ag uwchraddio cysylltiadau presennol neu osod seilwaith newydd, fel datrysiadau lloeren neu fand eang diwifr. Ewch i dudalen we y Cynllun Grant ABC am fwy o wybodaeth: https://www.llyw.cymru/cynllun-grant-allwedd-band-eang-cymru .

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu