Toggle menu

Canolfan Creuddyn yn agor ei drysau i fusnesau lleol

05.11.2021 - Mae canolfan fusnes newydd yn Llanbedr Pont Steffan wedi cael ei hagor yn swyddogol at ddefnydd y gymuned a busnesau yr wythnos hon.

Canolfan Creuddyn yn agor

Agorwyd Canolfan Creuddyn ar 04 Tachwedd gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters AS, drwy araith wedi'i recordio am nad oedd yn gallu bod yn bresennol.

Roedd Elin Jones AS, Aelod Etholaethol o'r Senedd dros Geredigion yn bresennol.

Mae Creuddyn yn adeilad o'r radd flaenaf sy'n cynnig unedau busnes i fusnesau lleol, y sector gofal cymdeithasol a sefydliadau elusennol, a bydd yn berffaith ar gyfer busnesau newydd sy'n chwilio am eiddo yn y dref. Bydd yn gyfleuster cymunedol newydd cyffrous a fydd yn dod â phobl at ei gilydd, yn helpu i fynd i'r afael ag unigedd cymdeithasol, yn cefnogi swyddi, yn darparu cyfleoedd hyfforddi, ac yn darparu ar gyfer mentrau cymdeithasol.

John Jenkins yw Cadeirydd Barcud. Dywedodd: "Rydyn ni wrth ein bodd o weld dros tair blynedd o waith yn dwyn ffrwyth wrth i'r safle allweddol hwn yn Llanbedr Pont Steffan agor. Ynghyd â'n cyllidwyr, hoffwn ddiolch a thalu teyrnged i'r tîm dylunio a'r contractwr lleol sydd wedi helpu i wireddu ein gweledigaeth. Bydd Creuddyn yn darparu adeilad datblygu menter a fydd yn cefnogi adfywio'r dref, yn creu cyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth newydd, ac yn cyfrannu at ddatblygu'r economi sylfaenol leol. Mae Creuddyn wrth wraidd ein cynlluniau i ddarparu hyfforddiant i gael gwaith, a datblygu mentrau cymdeithasol. Bydd hefyd yn gwella ein gwaith partneriaeth agos gydag ysgolion lleol, colegau technegol a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant."  

Darparwyd cyllid ar gyfer y cynllun gwerth £3.1 miliwn drwy Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru (£1.53m) drwy Gyngor Sir Ceredigion, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) a Barcud. 

Derbyniwyd cymorth gan Bartneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru i flaenoriaethu'r prosiect i dderbyn cyllid gan Flaenoriaeth 4 Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn yw Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a Chyd-gadeirydd Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru. Dywedodd: "Mae cefnogi datblygiad Creuddyn yn rhan o flaenoriaethau corfforaethol allweddol y Cyngor; sef helpu i roi hwb i'r economi. Rydym yn credu'n gryf bod buddsoddi mewn gweithgarwch economaidd yn ein trefi yn hanfodol er mwyn sbarduno bywiogrwydd a'u gwneud yn lleoedd ffyniannus i fyw, gweithio ac ymlacio ynddyn nhw. Mae'n wych gweld bod datblygiadau fel hyn wedi elwa o'r cyllid a flaenoriaethwyd yn rhanbarthol gan bartneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru ers ei ffurfio yn 2015. Rwy'n dymuno pob lwc a llwyddiant i unrhyw fusnesau newydd a busnesau twf sy'n ffodus o fod wedi'u lleoli yng nghanolfan Creuddyn."

Diben craidd y datblygiad yw ysgogi adfywiad yn nhref Llanbedr Pont Steffan drwy ddarparu mannau busnes ecogyfeillgar modern i dyfu busnesau yn yr ardal, yn enwedig yn y sector gofal cymdeithasol.

Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters: "Os ydym am lwyddo i achub canol ein trefi, mae angen ymyrraeth gydgysylltiedig radical arnom."

"Mae Creuddyn yn enghraifft wych o sut mae'r ymyrraeth hon yn gweithio - nid yn unig y bydd yr uned fusnes newydd yn helpu i ddod â gwell swyddi a gwasanaethau yn nes at adref, ond bydd hefyd yn helpu i roi hwb i'r economi leol ac yn cael effaith gadarnhaol ar newid yn yr hinsawdd, gan gynnig mynediad i bobl at swyddi a gwasanaethau heb fod angen car."

Canolfan Creuddyn yn agor

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu