Toggle menu

Bargen Dwf Canolbarth Cymru yn agosáu at gyrraedd y nod yn 2024

14.11.2023 - 'Mae Bargen Dwf Canolbarth Cymru wedi gweld cynnydd da yn 2023 ac mae bellach bron â chyrraedd y 'cyfnod cyflawni'. Dyma yw'r diweddariad a rannwyd gyda gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru ac Arweinwyr Cyngor Sir Powys a Cheredigion mewn cyfarfod rhithiol a gynhaliwyd ar y 9fed o Dachwedd.

Eleni mae'r Fargen wedi derbyn £4m o gyllid, y dyraniad cyntaf o gyllid gan y ddwy lywodraeth fel rhan o gytundeb a wnaed yn gynnar yn 2022.

Mae portffolio presennol Bargen Dwf Canolbarth Cymru yn cynnwys cyfuniad o Raglenni a Phrosiectau sy'n anelu at hybu'r meysydd Blaenoriaeth Twf Strategol canlynol:

  • Ymchwil Gymhwysol ac Arloesi
  • Amaethyddiaeth, Bwyd a Diod
  • Cynnig twristiaeth cryfach
  • Digidol
  • Cefnogi Menter

Gellir gweld crynodeb o bortffolio Bargen Dwf Canolbarth Cymru ar wefan Tyfu Canolbarth Cymru: www.tyfucanolbarth.cymru/portffolioBargenTwfCC  

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd James Gibson-Watt ac Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Bryan Davies: "Roedd ein sgwrs gyda Gweinidogion y ddwy Lywodraeth yn gyfle i edrych tuag at y dyfodol yn bositif. Fe wnaethom fyfyrio ar ba mor bell y mae Bargen Dwf Canolbarth Cymru wedi datblygu eleni a sut y gall rhai o'r Prosiectau a'r Rhaglenni fod mewn sefyllfa i ddechrau cyflawni yn 2024. Bydd hyn yn arwain at greu swyddi, hybu gweithgarwch economaidd a denu buddsoddiad pellach i'n rhanbarth.

Ein blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod yw parhau i gefnogi'r Prosiectau a'r Rhaglenni wrth iddynt ychwanegu rhagor o fanylion at eu hachosion busnes a chynllunio ar gyfer cyfleoedd buddsoddi pellach. Rydym am roi Canolbarth Cymru ar y map, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, i roi gwybod i fuddsoddwyr ein bod yn croesawu mwy o gynlluniau ariannu i wireddu'n llawn y weledigaeth o gynyddu ffyniant yn ein rhanbarth.

Diolchwn i Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru, a Dr James Davies, Is-ysgrifennydd Seneddol (Swyddfa Cymru) Llywodraeth y Deyrnas Unedig am y cyfarfod hwn sy'n atgyfnerthu gwaith partneriaeth a'u hymrwymiad i Ganolbarth Cymru."

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am holl ddatblygiadau Bargen Dwf Canolbarth Cymru cofrestrwch ar gyfer cylchlythyrau misol Tyfu Canolbarth Cymru. E-bostiwch:  tyfucanolbarthcymru@ceredigion.gov.uk

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu