Toggle menu

Y Rhaglen Ddigidol

Nod Rhaglen Ddigidol Tyfu Canolbarth Cymru yw manteisio ar y cyfleoedd economaidd y bydd modd eu datgloi trwy fuddsoddi mewn seilwaith digidol er mwyn rhoi sylw i'r diffygion mewn cysylltedd digidol, llywio'r penderfyniad i fanteisio ar dechnolegau newydd ymhlith busnesau'r rhanbarth a gwella'r gwasanaethau sy'n bodoli eisoes.

Tablet with various programmes running on screen to represent digital technology

Cyflawnir hyn trwy gyflymu darpariaeth seilwaith digidol ar draws Canolbarth Cymru trwy gyfrwng ystod amrywiol o ddefnydd seilwaith diwifr a sefydlog, gyda phlatfformau arloesol, cymorth busnes a diwygiadau polisi yn cyd-fynd ag ef, sy'n hwyluso neu sy'n darparu mwy o fuddsoddiad yn uniongyrchol, gan ysgogi'r galw, a chyflymu manteisio a chreu digidol ar draws rhanbarth Canolbarth Cymru. 

Bydd y rhaglen yn ystyried symud prosiectau yn eu blaen sy'n cyd-fynd gyda ac sy'n cynnig rhywbeth ychwanegol i'r mentrau hynny sydd eisoes yn eu lle neu sydd wedi cael eu cynllunio trwy gyfrwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, gan sicrhau bod prosiectau yn cyd-fynd gyda defnydd a buddsoddiad masnachol ar draws y rhanbarth, heb unrhyw ddyblygu, er mwyn sicrhau cymaint o elw ag y bo modd ar y buddsoddiad.

Oherwydd hyn, mae'r Rhaglen wedi nodi rhestr hir o gyfleoedd ac ymyriadau posibl i'w hystyried a'u datblygu ymhellach, gan gydnabod y bydd angen i'r rhaglen a phrosiectau posibl fod yn gallu cael eu haddasu yn hawdd er mwyn ymateb mewn ffordd effeithiol i'r amgylchedd y mae'r Rhaglen yn gweithredu ynddo, sy'n newid yn gyson. Gydag ymddygiad defnyddwyr a'r farchnad, cynlluniau'r Llywodraeth, a mentrau sy'n bodoli eisoes ac sydd wedi cael eu cynllunio yn parhau i esblygu.

Ar hyn o bryd, mae'r Rhaglen yn canolbwyntio ar bedwar prif brosiect -

  • Prosiect Band Eang TCC - wedi'i anelu at wella darpariaeth band eang i'r rhai nad ydynt ar hyn o bryd wedi'u cynnwys o fewn rhaglenni eraill, boed yn rhai masnachol neu wedi'u hariannu'n gyhoeddus.

  • Y Prosiect Signal Dyfeisiau Symudol a Chapasiti TCC - wedi'i anelu at wella'r cynnwys a'r capasiti o ran darpariaeth symudol ar draws Rhanbarth Canolbarth Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae wedi'i nodi fel rhai â darpariaeth wael.

  • Prosiect cysylltiad ffeibr i'r adeilad (FTTP) ar gyfer Parciau Busnes TCC - wedi'i anelu at ddarparu band eang 'ffibr i'r safle' i bob parc busnes sy'n weddill ar draws y Rhanbarth, lle na fydd rhaglenni eraill yn ymyrryd.

  • Prosiect Ysgogi LoRaWAN - wedi'i anelu at alluogi busnesau drwy gyllid a chefnogaeth briodol i fanteisio ar y rhwydwaith a'r dechnoleg LoRaWAN sy'n bodoli eisoes ac sydd i ddod ar draws Canolbarth Cymru.

Rydym bob amser yn chwilio am fusnesau a buddsoddwyr posibl i weithio gyda ni er mwyn helpu i wireddu potensial llawn y Rhaglen. Os oes gennych ddiddordeb mewn trafod ymhellach unrhyw gyfleoedd i fuddsoddi neu os hoffech gymryd rhan mewn unrhyw ffordd, mae croeso i chi gysylltu â ni.

  • Bargen Dwf: tyfucanolbarthcymru@ceredigion.llyw.cymru
  • Ar gyfer pob ymholiad economaidd ac adfywio arall: Yng Ngheredigion, cysylltwch â Clic ar 01545 570 881/ clic@ceredigion.gov.uk. Yn Powys, cysylltwch 01597 827 657/ regeneration@powys.gov.uk

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu