Toggle menu

Bargen Twf Canolbarth Cymru gwerth £110m yn cyrraedd carreg filltir allweddol

Cyrhaeddodd Bargen Twf Canolbarth Cymru garreg filltir bwysig heddiw [dydd Mawrth, 22 Rhagfyr] wrth i Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol y rhanbarth lofnodi Penawdau'r Telerau.

Mid Wales Heads of Terms Signing

Cyrhaeddodd Bargen Twf Canolbarth Cymru garreg filltir bwysig heddiw [dydd Mawrth, 22 Rhagfyr] wrth i Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol y rhanbarth lofnodi Penawdau'r Telerau.

Mae'r llofnodi yma yn tystio i ymrwymiad y llywodraethau a'r awdurdodau lleol i gydweithio er mwyn darparu bargen i gefnogi economi'r rhanbarth.

Mae hefyd yn ymrwymo Llywodraethau Cymru a'r DU i gefnogi'r fargen twf gyda buddsoddiad o £55m yr un.

Mae'r fargen twf yn seiliedig ar y Weledigaeth ar gyfer Tyfu Canolbarth Cymru a gyhoeddwyd yn gynharach eleni ac a amlinellodd y strategaeth economaidd ehangach ar gyfer y rhanbarth.  Bydd yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatgloi a denu buddsoddiad pellach gan y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Gall y rhanbarth bellach symud ymlaen i'r cam nesaf sy'n cynnwys cyflwyno cynigion manylach ar ffurf Achos Busnes Portffolio a fydd yn cynnwys wyth maes blaenoriaeth ar gyfer ymyrryd, gan gynnwys cysylltedd digidol, ymchwil gymhwysol ac arloesedd, ynni a sgiliau.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Arweinwyr Cynghorau Sir Ceredigion a Phowys, y Cynghorwyr Ellen ap Gwynn a Rosemarie Harris "Mae hon yn garreg filltir bwysig i ni yng Nghanolbarth Cymru, gan ddangos ymroddiad ac ymrwymiad yr holl bartneriaid i'r rhanbarth - ac mae'n ddatblygiad cadarnhaol iawn ar ddiwedd blwyddyn anodd iawn.

"Mae'r gwaith caled yn dechrau nawr, fodd bynnag. Bydd y flwyddyn nesaf yn hanfodol i osod y sylfeini ar gyfer darparu Bargen Dwf am y 15 mlynedd nesaf ar y cyd â busnesau a chymunedau Canolbarth Cymru. Bydd yn hanfodol manteisio ar y  cyfle hwn i gyflawni a denu buddsoddiad sylweddol i'r economi ranbarthol, gan sbarduno buddsoddiad pellach gan y sector preifat a'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector ehangach."

"Hoffai'r ddau ohonom ddiolch i'r ddwy Lywodraeth, ein partneriaid yn y sector preifat a'r partneriaid a rhanddeiliaid niferus yn y rhanbarth sydd wedi ein cefnogi hyd yma, ac edrychwn ymlaen at fynd ati o ddifrif i lunio'r cynigion cyn bo hir."

Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: "Mae hwn yn ddiwrnod pwysig i Ganolbarth Cymru.  Rwy'n falch fy mod wedi llofnodi Penawdau'r Telerau sydd bellach yn ein hymrwymo i gyd i weithio gyda'n gilydd ar gam nesaf y fargen twf. 

"Mae eleni wedi bod yn hynod o anodd a heriol i bob un ohonom, ac mae'r effaith ar fusnesau wedi bod yn ofnadwy.  Bydd y fargen twf yn ffactor yn bwysig wrth ddelio ag effeithiau parhaus pandemig y coronafeirws ar yr economi, ac mae'n dda gweld pawb yn dod at ei gilydd i geisio sicrhau bod y fenter hon yn llwyddiant."

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart: "Mae Llywodraeth y DU yn anelu at ddod â mwy o fuddsoddiad a thwf i gymunedau ledled Cymru ac mae'r llofnodi heddiw yn cynrychioli cynnydd gwirioneddol o ran cyflawni'r nodau hynny.

"Mae Bargen Twf Canolbarth Cymru yn gyfle sylweddol i drawsnewid y rhanbarth. Byddwn yn adeiladu'n ôl yn well o'r pandemig ac yn dod â chyfleoedd a swyddi i'n cymunedau a dyna pam rydym eisoes wedi ymrwymo £55m i'r portffolio cyffrous hwn o fuddsoddiad.

"Byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid i ddatblygu'r fargen twf a sicrhau ei bod yn cyflawni ar gyfer pobl a busnesau Canolbarth Cymru."

Darllenwch y Cyntundeb Penawdau Telerau yma.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu